Ymwybyddiaeth Iaith
Cysylltwch Tudur Evans i gael rhagor o wybodaeth, ebost neu ffoniwch 01248 353254
Disgrifiad o’r Cwrs
Cyfle i wella eich dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn gyffredinol yn y gweithle.
Ers cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1993, gan sefydlu Bwrdd yr Iaith, a rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg, mae’n ofynnol i sefydliadau sector cyhoeddus ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd.
Mae llawer o gwmnïau preifat a sefydliadau eraill hefyd yn sylweddoli’r manteision cysylltiadau cyhoeddus, a’r gwasanaeth cwsmeriaid cynyddol a gynigir drwy hybu diwylliant dwyieithog ymhlith eu gweithwyr.
Ar ddiwedd y cwrs bydd pob cynrychiolydd yn datblygu cynllun gweithredu unigol i’w cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau eu hunain.
Bydd hyn yn cynnwys:
• Adnabod sgiliau sydd ohoni
• Adnabod pa sgiliau a fyddai’n cefnogi swyddogaeth eu swydd
• Adnabod pa sgiliau a fyddai o ddefnydd y tu allan i’r gwaith
• Datblygu cynllun dysgu seiliedig ar y wybodaeth hon
Braslun Cwrs
Cwrs dwys undydd yn edrych ar:
• Pwysigrwydd ieithoedd – y sefyllfa Ewropeaidd
• Dwyieithrwydd – yr hyn sy’n gwneud iaith yn iach
• Gwahanol sgiliau dwyieithrwydd – ar waith yn eich bywyd bob dydd
• Braslun cyflym o gefndir hanesyddol y Gymraeg
• Polisi Iaith eich sefydliad
• Cyfle cyfartal a rôl Bwrdd yr Iaith
Cwrs dilynol:
Gweithio’n ddwyieithog
Cwrs undydd pellach wedi ei gynllunio i gefnogi gweithwyr i weithio’n effeithiol mewn gweithle dwyieithog.
Mae tri opsiwn i gyfarfod ag anghenion penodol:
• Cymry Cymraeg
• Dysgwyr
• Y di-Gymraeg