Technolegau Creadigol o fewn Amgylchedd Cymru
Wedi colli y Gweithdy? ddal i fyny yn y cylchlythyr hwn
Ymhlith y siaradwyr bydd
Tom Beverly + Rhys Jones (Acknack ltd)
Rebecca Colley-Jones (Prifysgol Bangor)
Chris Headleand + Ian McNeil (CAG Coleg Harlech)
a fydd yn cyflwyno amryw o bynciau gan gynnwys y datblygu aps symudol a chyfryngau
cymdeithasol o fewn cyd-destun technolegau creadigol a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Bydd cynrychiolwyr o'r prosiect Dyfodol yno hefyd
Ynghylch y siaradwyr
Rhys Jones a Tom Beverly (Acknack Ltd)
Cwmni wedi’i leoli ym Mangor, Gogledd Cymru, ac sy’n arbenigo mewn rhaglenni ar gyfer dyfeisiau symudol a chyfrifiaduron tabled yw Acknack Ltd. Mae ei gynnyrch diweddaraf, PageSend, yn troi’r iPad yn fwrdd gwyn llwyr ryngweithiol, gan ganiatáu i unrhyw un wylio, cofnodi a rhannu syniadau yn ogystal â chydweithio ar-lein mewn amser real.
Rhedir y cwmni gan Rhys Jones a Thomas Beverley. Entrepreneur llwyddiannus ym maes technoleg yw Rhys, sydd wedi sefydlu, datblygu ac yna werthu dau gwmni rhyngrwyd (SecureTrading Ltd ac Accountis plc). Mae gan Tom, a raddiodd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, arbenigedd helaeth ym meysydd rhaglenni gwe cydweithiol a datblygu rhaglenni ar gyfer dyfeisiau symudol, a derbyniodd wobr am y gwaith hwn gan Google yn Nyffryn Silicon yn ddiweddar.
Rebecca Colley-Jones - Technolegau Digidol a Dylunio Amgylcheddol
Mae gan Rebecca dros 12 mlynedd o brofiad yn y proffesiwn amgylcheddol a rheoli gwastraff. Prif ganolbwynt ei gwaith yw darparu atebion i fusnesau mewn perthynas â rheoli gwastraff ac adeiladu cynaliadwy.
Ar hyn o bryd mae hi’n rhannu ei hamser rhwng: y Sefydliad Cymreig ar gyfer Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, lle mae hi’n arbenigo mewn rheoli adnoddau ac adeiladu cynaliadwy, a’i chwmni ymgynghori ei hun, Ynys Resources, sy’n gweithio gydag amrywiol gwmnïau i ddatblygu marchnadoedd newydd ar gyfer adnoddau megis uwchbriddoedd wedi’u gweithgynhyrchu, ac sy’n datblygu cyfleusterau rheoli adnoddau newydd ar Ynys Môn.
Ei huchelgais yw cael ymadael â rheoli gwastraff a chanolbwyntio ar reoli adnoddau!!
Chris Headleand – Rhwydweithio cymdeithasol a lledaenu cyfryngau newydd
Ymgynghorydd TG ac arloesedd sy’n arbenigo mewn rheoli prosiectau ar gyfer datblygu meddalwedd gwe yw Chris Headleand. Mae ef wedi gweithio ar nifer o brosiectau mawr, gan gynnwys cymwysiadau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd, mentrau wedi’u noddi gan yr UE, a chwmnïau cyfyngedig cyhoeddus mawr yn y DU. Mae’n arbenigwr yn egwyddorion cyfryngau cymdeithasol a Web 2.0, a’u cymwysiadau ym myd busnes a marchnata yn benodol.
Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 2008 gyda gradd mewn dylunio ac ers hynny bu’n rheoli ei fusnes datblygu gwe ei hun. Mae’n eistedd ar fwrdd dau gwmni meddalwedd a label ffasiwn chwaraeon ac mae hefyd yn ddarlithydd Technolegau Creadigol yng Ngholeg Harlech.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |




