Prosiectau Dysgu yn y Gwaith

Mae Cymdeithas Addysg y Gweithwyr wedi bod yn darparu cyfleodd i ehangu addysg ers bron i gan mlynedd. Rydym yn falch o barhau gyda y traddodiad hwn.

Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Undebau Llafur a Chyflogwyr rydym yn ceisio darparu addysg o’r safon uchaf. Allwedd llwyddiant yw hyblygrwydd, mae pob cwrs yn cael ei addasu i anghenion penodol pob gwrb unigol, a caiff y cwrs ei drefnu y sicrhau y gall pob dysgwr gymryd rhan lawn.

Darperir cefnogaeth ar gyfer pob dysgwr fel y gallant wneud y mwyaf o’r addysg sydd ar gael, mae hyn yn cynnwys cefnogaeth sgiliau hanfodol a Dyslecsia.

“Mae’r ethos o ledaenu cyfranogiad, a chyrraedd allan i ddysgwyr anodd eu cyrraedd an nhraddodiadol megis dynion hyn, grwpiau ethnig lleiafrifol, gweithwyr sifft a gweithwyr rhan amser yn rhywbeth y mae y symudiad undebol a Choleg Harlech WEA yn rannu. Mae gan yr Adran Dysgu yn y Gweithle record ardderchog o fynd a’r dysgu i’r bobl hyn yn eu gweithle hwy”
Vaughan Getning, Llywydd TUC Cymru

Mewn busnesau bach , gwirfoddol o fewn sefydliadau mwy mae tîm Dysgu yn y Gwaith CAG(G) Coleg Harlech yn cynnig cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer datblygu busnes, gyrfa neu sgiliau personol.

Prosiect y Farchnad Lafur Drosiannol

Dyfarnwyd contract gwerth £300k i CAG(G) Coleg Harlech gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i greu 65 o swyddi newydd yn Harlech.

Cyllidir y contract drwy brosiect Marchnad Lafur Drosiannol (MLD) Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy’n buddsoddi mewn sefydliadau i helpu pobl sy’n ddi-waith neu’n anweithgar yn economaidd i feithrin sgiliau a chael swyddi. Cyllidir prosiect y MLD drwy Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd a chan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Disgwylir i’r rheiny sy’n cymryd rhan fynychu 35 awr o waith/hyfforddiant yr wythnos, gan efelychu amodau gwaith go iawn. Fel y cyfryw, telir cyflog iddynt (yn ôl cyfradd yr isafswm cyflog) gan y Coleg. Dros 18 mis, cyflogir 65 o bobl am gyfnodau o 12 wythnos. Cyflwynir y prosiect yng Ngholeg Harlech dan arweiniad a chymorth ei staff medrus. Bydd yr wythnos waith yn cynnwys tua 2½ diwrnod o brofiad gwaith ymarferol a 2½ diwrnod o addysg, gan ddibynnu ar anghenion yr unigolyn.

Bydd y rheiny sy’n dilyn y rhaglenni’n ymgymryd â chymhwyster mewn cyflogadwyedd a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae hyn yn cwmpasu agweddau megis ysgrifennu CV a llythyrau, llenwi ffurflenni cais, sgiliau mewn cyfweliad, a hunanddatblygiad. Gan ddibynnu ar eu hanghenion, anogir a chynorthwyir yr unigolion i feithrin eu sgiliau TG, llythrennedd a rhifedd, a chânt gyfle i ennill cymwysterau lle bo’n briodol. Mae cymorth ar gael hefyd i’r rheiny sydd â dyslecsia, a darperir cynghorwr personol ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan.