Myfyrwyr yn y Newyddion...

Coleg Harlech yn helpu i lansio gyrfa newydd cyn-aelod o’r Awyrlu

Datgelodd un o gynfyfyrwyr CAG Coleg Harlech na fyddai byth wedi llwyddo i fynd i brifysgol heb gymorth y coleg.

Dilynodd Tim Sims, 30 oed, o Bwllheli gwrs Llwybr i Nyrsio yn y coleg rhwng 2010 a 2011.
Meddai: “Roedd yn gwrs gwych, roedd y pecyn cyflawn yn ardderchog ac roedd y cymorth yno o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r adnoddau’n benigamp ac fe wnaeth Coleg Harlech y newid o goleg i brifysgol yn un hawdd iawn”

Ar ôl cwblhau’r cwrs, cafodd Tim, sy’n dad i ddau o blant, ei dderbyn gan Brifysgol Glyndwr yn Wrecsam i astudio am Radd mewn Nyrsio. Ei uchelgais yw arbenigo fel nyrs seiciatrig ac mae ef wedi ymgymryd â nifer o leoliadau gwaith yng Ngogledd-Orllewin Cymru.

Yn ddiweddar bu’n gweithio i Hafal, sefydliad ym Mhorthmadog sy’n helpu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae Coleg Harlech wedi gweddnewid gardd Hafal ar gyfer ei ddefnyddwyr gwasanaeth ac roedd Tim yn gallu gweld y gwaith yn cael ei wneud drosto ei hun.

Cyn dychwelyd i goleg, bu Tim yn yr Awyrlu Brenhinol am bum mlynedd. Peterborough oedd ei ganolfan ond bu’n gwasanaethu yn Ynysoedd y Falkland, Oman a Chyprus.
Dywedodd iddo adael ar ôl “derbyn cynnig i ddod yn brentis i blymwr – roedd hyn yn gyfle da i ddod yn ôl adre’.”

Ond ar ôl chwe blynedd dechreuodd feddwl eto am ei ragolygon gwaith.
“Doedd yr arian ddim yn gyson ac roedd y dyfodol yn ansicr. Roeddwn i eisiau gweithio i gorff mawr. Mae

Dad yn nyrs seiciatrig ac awgrymodd y gallwn i hyfforddi i fod yn un hefyd,” meddai.
“Be’ wnaeth Coleg Harlech i mi oedd rhoi cymorth ariannol drwy’r grantiau sydd ar gael. Roedd yr holl adnoddau’n anhepgor a heb gymorth y coleg fyddwn i ddim wedi mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol.”