|
||||||||||
"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands |
||||||||||
|
||||||||||
![]() |
Cyrsiau Preswyl
|
|
Email a friendAstudiaethau CymdeithasolI le mae'n arwain Fel arfer bydd myfyrwyr llwyddiannus yn mynd ymlaen i wneud graddau mewn Seicoleg Cymdeithasol, Nyrsion, Polisi Cymdeithasol, Troseddeg - yn mynd ymlaen i yrfâu yn y gwasanaethau cymdeithasol, gwaith cymunedol ac ieuenctid, y gwasanaeth prawf, GIG, arweiniad a chyngor. Y Rhaglen Mae'r rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar amrywiaeth o faterion sydd o bwys mawr inni i gyd: tlodi, trosedd, y teulu, seicoleg ddynol, yr amgylchedd, busnes ac economeg. Mae'n cynnwys ystod eang o fodiwlau, gan roi cyfle i fyfyrwyr i archwilio nifer o ddiddordebau, neu i arbenigo mewn un neu ragor o ddisgyblaethu academaidd. I'r rheini sydd am fynd ymlaen i gwrs gradd mewn Seicoleg, darperir hyfforddiant mewn Mathemateg Syml ac Ystadegau. Dysgir y Rhaglen drwy gyfuniad o ddarlithoedd, grwpiau seminar bach, gweithdai a thiwtorialau personol |
||||