Coleg Harlech Cyrsiau Byr

Mae’r rhaglen cyrsiau byr yn cynnig cyfle i chi astudio yng Ngholeg Harlech a rhannu syniadau â phobl o’r un meddylfryd â chi.

Mae gan y tiwtoriaid brofiad helaeth o ddysgu oedolion a bydd eu brwdfrydedd at y pwnc yn eich ysgogi a rhoi mwynhad i chi.

Mae Coleg Harlech wedi’i leoli yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol Eryri, a cheir oddi yma olygfeydd gwych dros Fae Tremadog. Pan na fyddwch yn astudio, gallwch fanteisio ar y cyfleoedd lleol, gan gynnwys Theatr Ardudwy, Clwb Golff Royal St David’s, ynghyd â’r pwll nofio dan do cyhoeddus, y cyrtiau tenis a’r ganolfan chwaraeon yn Harlech. Ewch am dro i Gastell Harlech, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, neu i dref hynafol Harlech, neu gallwch gerdded i lawr at y traeth lle mae milltiroedd o dywod melyn i fwynhau’r machlud ysblennydd. Gall y cerddwyr mwy brwdfrydig yn eich plith ddringo’r Grisiau Rhufeinig a’r Rhinogydd.

Tref Cwrs Lefel Cychwyn Ffi Preswyl Ffi di-breswyl
Harlech Ysgol Haf Gymraeg (uwch) Uwch 13/07/2013 £380 £135
Harlech Ysgol Haf Gymraeg (dechreuwyr) Dechreuwyr 13/07/2013 £380 £135
Harlech Ysgol Haf Gymraeg (canolradd) Canolradd 13/07/2013 £380 £135