Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr

Mae tîm cymorth myfyrwyr Coleg Harlech yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau y gellir eu cyrchu drwy siarad â’r Swyddog Cymorth Myfyrwyr.

Ffôn 01766 781 918 E-bost support@fc.harlech.ac.uk

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys –
Cyngor, Arweiniad, Cynghori ynghyd â chymorth ymarferol gydag ymholiadau sy’n ymwneud â

  • Materion personol, iechyd a lles
  • Materion ariannol, dyledion, cyllido astudiaethau a budd-daliadau
  • Problemau tai
  • Darparwyr gofal plant lleol
  • Cyngor gyrfaoedd (gan ddefnyddio Gyrfa Cymru)
  • Ceisiadau i brifysgolion a dewisiadau cyllido cysylltiedig
  • Y cymorth a’r cyfarpar y bydd eu hangen i helpu gydag unrhyw anghenion dysgu neu anableddau penodol
  • Sgiliau astudio

Mae’r staff cymorth myfyrwyr mewn cysylltiad ag amryw o asiantaethau arbenigol. Dewch i’n gweld os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau.

Gwasanaethau sydd ar gael i’ch helpu i astudio

Gallwn ddeall eich bod chi braidd yn bryderus os nad ydych wedi bod yn astudio ers amser maith, a byddwn yn eich helpu i elwa i’r eithaf ar eich cwrs.

Sut y byddaf yn gwybod faint o gymorth sydd ei angen arnaf?
Yn ystod eich wythnos gyntaf yn y coleg byddwn yn cynnal asesiad byr gyda chi o’ch anghenion astudio a chymorth. Mae’r canlyniadau’n gyfrinachol, a defnyddir hwy i’n helpu i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Sgiliau Astudio

Fel rhan o’ch cwrs bydd gofyn i chi wneud gwaith ymchwil a chynhyrchu a chyflwyno eich gwaith mewn sawl ffordd e.e. ysgrifenedig, llafar, ymarferol ac ati. Mae sesiynau Sgiliau Astudio yn rhan hanfodol o’ch cwrs gan eu bod yn rhoi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch i gwblhau holl elfennau eich astudiaeth. Maent yn cynnwys cyflwyniad i Dechnoleg Gwybodaeth, sgiliau Cyfathrebu ac, os oes angen, gweithio gyda Rhifau.

Moodle

Gwefan ryngweithiol yw Moodle lle gall myfyrwyr gyrchu deunyddiau cwrs a rhannu gyda myfyrwyr eraill.

Y Llyfrgell

Mae gan y llyfrgell gasgliad enfawr o lyfrau, gan gynnwys llyfrau ar y pynciau a ddysgir yn y Coleg. Ond mae’n llawer mwy na rhesi o lyfrau ar silffoedd; mae’r Llyfrgell hefyd yn ganolfan electronig lle gall yr holl fyfyrwyr gyrchu adnoddau ar-lein Prifysgol Cymru. Mae’n lle distaw i weithio, chwilio am wybodaeth a chasglu post.

Gwasanaeth Cynghori

Mae’n bosibl y byddwch ambell waith yn teimlo’r angen i siarad â rhywun a all
roi cymorth arbenigol i chi i’ch helpu gyda gwahanol broblemau. Os felly, gallwch siarad â’n Cynghorydd Myfyrwyr yn hollol gyfrinachol. Mae’n bosibl y bydd y Cynghorydd yn gallu eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol allanol hefyd.

Cymorth Ychwanegol

Os oes gennych anghenion ychwanegol megis anabledd corfforol, dyslecsia neu iechyd meddwl, a fyddech cystal â chysylltu â ni er mwyn i ni allu trafod eich amgylchiadau penodol.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gwrdd â’ch anghenion, ond mae’n bwysig i chi gysylltu â ni mor gynnar â phosibl er mwyn rhoi amser i ni ymateb mewn ffordd briodol a phrydlon.

Mynediad

Gwnaed llawer iawn o waith i sicrhau bod y Coleg mor hygyrch â phosibl, er gwaethaf y problemau sydd ynghlwm â hen adeilad a godwyd ar safle serth. Mae lifftiau yn y Llyfrgell, y Theatr a’r Neuaddau Preswyl, ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad i’r holl ystafelloedd y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. A fyddech cystal â chysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw bryderon mewn perthynas â mynediad i adnoddau’r coleg fel y gallwn wneud y trefniadau angenrheidiol.

Datganiad Mynediad ar gyfer Campws Harlech