|
||||||||||
"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands |
||||||||||
|
||||||||||
![]() |
Cyrsiau Preswyl
|
|
E-bostio cyfaillCwrs Crochenwaith Racw O ’r Pot i’r Odyn Os ydych yn derbyn budd-daliadau, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael Cliciwch yma i islwytho’r ffurflen gais
Bydd y cwrs hwn yn mynd â chi drwy’r broses gyfan gam wrth gam – o’r pot i’r odyn. Byddwch yn dod i wybod am a gwerthfawrogi crochenwaith Racw – darperir defnyddiau a hyfforddiant i’ch galluogi i wneud gwaith ysbrydoledig. Yn ystod yr wythnos rhoddir sylw i dechnegau adeiladu gan gynnwys crochenwaith torchog, crochenwaith slab a gwasg-fowldio. Ni ellir cael enghraifft well o’r amgylchedd naturiol na’r ardal o gwmpas Coleg Harlech gyda’i thraethau, mynyddoedd a golygfeydd o’r môr, heb sôn am Gastell Harlech a’r cyffiniau. Gan ddefnyddio’r amgylchedd lleol fel ysbrydoliaeth, byddwch yn cael eich tywys drwy’r broses ddylunio drwy gynhyrchu gweadau a phatrymau a gwneud marciau ar arwynebau clai sy’n adlewyrchu’r ardal. Ar ôl gwneud y crochenwaith, byddwch yn mynd ati i wneud a chymysgu gwydreddau. Yn ystod y broses hon byddwch yn dysgu am yr amrywiaeth o ddefnyddiau cerameg a’u swyddogaeth mewn technoleg gwneud gwydreddau. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol, a bydd y wybodaeth dechnegol yn cael ei throsglwyddo i chi mewn iaith glir a chewch ddigon o daflenni i’ch helpu. Hefyd, dangosir sleidiau sy’n ymdrin â thechnegau crochenwaith, gan gynnwys adeiladu odyn a thanio. Erbyn diwedd y cwrs, drwy eich gwaith cerameg, bydd gennych ddealltwriaeth dda o brosesau dylunio a chynhyrchu. Bydd gennych hefyd well amgyffred o ystyriaethau technegol, gan gynnwys ffurfiant clai a ryseitiau gwydredd. |
||||