"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Three students working at computers

Cyrsiau Preswyl

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen amser-llawn, 1 flwyddyn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae bwrsarïau a llety ar gael i ymgeiswyr cymwys. Cofrestru nesaf Medi 2010.

Ar gyfer cyrsiau wythnos a phenwythnos yng Ngholeg Harlech, defnyddiwch y rhestr gwympo uchod

Beth mae'r myfyrwyr yn ei ddweud...

Isod ceir darnau o gyfweliadau gyda myfyrwyr Coleg Harlech. Mae ganddynt oll resymau gwahanol am ddod i Goleg Harlech, cliciwch ar eu henwau a darganfod sut maen nhw'n teimlo bod y coleg wedi newid eu bywydau.

Rob, Astudiaethau Cymdeithasol (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cyn dod i Goleg Harlech roeddwn yn gweithio i fusnes y teulu; roeddem yn rhedeg bariau a thai bwyta.Aethom i drafferthion ariannol ac euthum yn fethdalwr, a chollais fy nghartref o ganlyniad. Dyma’r amser y dechreuais i sylweddoli fy mod i wedi colli popeth, ac nad oedd yna ddim i’m dal yn ôl bellach; doedd gen i ddim byd i’w golli.

Roeddwn i’n bryderus iawn am ddychwelyd i fyd addysg. Rwyf yn 39 oed, ac mae dwy flynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi ysgrifennu traethawd ddiwethaf, a doeddwn i ddim yn ddarllenwr mawr. Roedd yn dipyn o sioc ar y cychwyn, ond mae wedi bod yn brofiad gwych. Rwyf wedi mwynhau pob eiliad, ac mae’n anodd credu bod fy nghyfnod yma bron â dod i ben – mae’r amser wedi hedfan.

John, Y Celfyddydau Creadigol a Thechnoleg Dylunio (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Roeddwn i wedi bod yn teithio ers pedair blynedd, yn Awstralia, India a Sbaen, pan welais i hysbyseb yn y papur yn ystod un o’m hymweliadau adref.

Rwyf yn hoffi celf, ac wedi ei hoffi erioed. Wnes i ddim dweud dim wrth neb, dim ond llenwi’r ffurflen a gwneud cais.

Y peth a dynnodd fy sylw oedd y dyslecsia. Doeddwn i erioed wedi cael prawf dyslecsia, ond roeddwn i’n gwybod bod gennyf broblem gyda darllen ac ysgrifennu.

Chefais i erioed fawr o addysg ac mae’n debyg fod peth bai arnaf i a pheth bai ar yr athrawon. Ffoniais y coleg a chefais wahoddiad i ddod ar gwrs blasu. Roeddwn i’n nerfus iawn ac yn amau a ddylwn fod yn gwneud hyn. Deuthum yna am benwythnos a dangoswyd i mi beth oedd yn cael ei gynnig.

Kenny, Amlgyfrwng (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Bûm yn gogydd am 14 blynedd ac roeddwn yn eithaf hapus am yr wyth i naw mlynedd cyntaf. Yna, euthum i weithio i rywun a oedd yn gwneud i Gordon Ramsey edrych fel Delia Smith.
Roedd un pen-cogydd yn taflu llestri atoch chi, ac felly fe symudais i at ben-cogydd arall, ac roedd popeth yn iawn am y flwyddyn gyntaf, ond yna fe ddechreuodd y cyfan eto.

Janet, Y Celfyddydau Creadigol a Thechnoleg Dylunio (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cefais fy magu mewn cymuned lofaol yn Ne Swydd Efrog. Roedd hyn yn ystod pumdegau’r ganrif ddiwethaf, ac roeddwn yn teimlo mai’r unig beth y gallwn ei ddisgwyl mewn bywyd oedd bod yn wraig a mam.

Roeddwn dan anfantais drwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol oherwydd agwedd fy nhad tuag at addysg – ni fyddai’n caniatáu i mi wneud unrhyw waith cartref. Roeddwn yn y ffrwd isaf, ac roedd y cynghorydd gyrfa wedi amlinellu fy nyfodol. Nid oedd dim i mi ond gweithio mewn ffatri neu felin.

Mae’r plant bellach wedi tyfu i fyny, ac rwyf wedi bod yn gweithio mewn swyddfa. Er fy mod yn mwynhau’r her, roedd gen i awydd mawr i wneud rhywbeth creadigol, ac roeddwn i’n awyddus iawn i astudio hyn ar lefel uwch er fy mod i’n meddwl fy mod yn rhy hen.

Beth allwn i ei wneud yn awr? Roeddwn i eisiau wynebu her newydd, ond beth ddylwn i ei wneud? Roedd oedran ymddeol yn nesáu, ac roeddwn yn barod am hyn yn gorfforol er bod gennyf ddigon o egni o hyd. Beth wnawn i gyda’r egni hwn?

Roedd gwybodaeth am Goleg Harlech yng Ngogledd Cymru yn edrych arnaf o’r hysbyseb yr oeddwn wedi’i dorri allan.

Daniel, Technoleg Cerddoriaeth (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Doeddwn i ddim yn gwneud fawr o ddim byd cyn i mi ddod yma. Roeddwn wedi cael nifer o swyddi di-fudd megis gweithio mewn bar a llenwi silffoedd. Mi benderfynais fy mod angen newid a meddyliais unwaith eto am ddod i’r coleg. A dyma fi. Mae’n un o’r pethau gorau i mi ei wneud erioed.

Lakpa, Astudiaethau Cymdeithasol (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Bûm yn gweithio mewn cartref preswyl am 3 blynedd cyn dod i’r coleg; cyn hynny roeddwn yn byw yn Nepal.

Yn Nepal, fel mewn nifer o wledydd Asiaidd, nid yw merched yn cael cyfle i fynd i’r ysgol – credir mai gwastraff amser yw rhoi addysg iddynt, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Nid yw’r rhieni wedi cael addysg chwaith.

Rwyf wedi gweithio gyda ffoaduriaid, pobl sydd wedi cael eu harteithio a phobl hyn, felly ni fyddai unrhyw gwrs arall yn gwneud y tro. Mae gennyf ddiddordeb mewn astudiaethau cymdeithasol gan fod y cwrs yn cyd-fynd â’r hyn yr wyf wedi bod yn ei wneud.

Mae Coleg Harlech yn lle da i ddod i ail-afael yn eich astudiaethau. Rydych yn cael cymorth ariannol, bwyd ac addysg - mae popeth yn gynwysedig. Yn fy ngwlad i, yn fy oedran i, hyd yn oed pe byddech yn gallu talu, nid oes neb i’ch dysgu. Mae wedi creu nifer o gyfleoedd i bobl; mae gan lawer o bobl yma ddyfodol da iawn.

Ceri, Y Celfyddydau Creadigol a Thechnoleg Dylunio (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cyn dod i Goleg Harlech roeddwn yn gweithio mewn siop gelf yn Abermaw, yn fframio a mowntio lluniau.

Bu gennyf ddiddordeb mewn celfyddyd erioed – dyna pam yr oeddwn yn gweithio yn y siop - ac roeddwn eisiau dysgu rhagor.

Nid oeddwn wedi gwneud dim byd tebyg i hyn o’r blaen, ac roeddwn braidd yn ofnus ar y cychwyn. Fodd bynnag, rydych yn ymgynefino ar ôl yr wythnosau cyntaf, ac yn dod i arfer â phethau. Mae’n bendant yn werth chweil.

Sean Durkin (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cyn dod yma roeddwn yn byw bywyd normal. Roeddwn wedi bod yn ddyn tân am wyth mlynedd ac wedi bod yn edrych ar ôl troseddwyr ifanc.

Rob Yates (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cyn imi ddod i Harlech roeddwn yn byw mewn hostel i'r digartref yn Taunton, Gwlad yr Haf. Cyn hynny roeddwn yn byw yn Swindon. Roeddwn yn cael trafferth oherwydd roeddwn newydd symud ac yna collais fy swydd ac roeddwn i braidd yn ddigalon.

Rachin Weetch (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Lluchiodd fy nghariad fi allan felly symudais i mewn i hostel. Yno dywedais wrthyn nhw fy mod am wneud Technoleg Cerddoriaeth. Cysylltodd fy ngweithiwr allweddol â mi o fewn 24 awr am y cwrs hwn, ac ymhen wythnos roeddwn yma ar gwrs blasu a phythefnos yn ddiweddarach roeddwn wedi symud i Harlech.

Raana Kalim (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cyn i mi ddod i Harlech roeddwn yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn gwahanol lefydd. Symudais i Loegr o Bacistan a sylweddoli os oeddwn am weithio yn Lloegr a deall y gymuned fod arnaf angen profiad, felly cynigais fy ngwasanaeth yn ddi-dâl yn gweithio gyda phlant a merched.

Nathan Hughes (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Cyn dod i Harlech roeddwn yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda phlant gydag awtistiaeth ac anableddau eraill. Mae gennyf anhwylder deubegwn ac roeddwn yn methu gweithio ar y pryd. Roedd yn newid enfawr dod yma a gwneud cwrs amser llawn.

Mark (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Rydw i'n dod o Lundain. Roeddwn wedi bod yn y carchar am amser hir ac wedi cael fflat gan y Cyngor. Roeddwn mewn swydd heb ddyfodol iddi, heb unrhyw addysg.

Mark Green (cliciwch yma am y cyfweliad llawn)

Mewn Cerddoriaeth oedd fy niddordebau i. Roeddwn yn chwilio am addysg a oedd ar gyfer rhywun o'm hoed i, sy'n weddol brin. Oherwydd nad oedd gennyf unrhyw gymwysterau, roeddwn yn meddwl y gallai hyn gael gwaith imi yn y dyfodol, neu hunangyflogaeth efallai.