Llwybr i Nyrsio
Tiwtor: Paula Rhodes
Os ydych yn dymuno dilyn gyrfa ym myd nyrsio neu faes gofal iechyd arall, ond nad oes gennych y cymwysterau sydd eu hangen ar hyn o bryd, dilynwch y llwybr hwn.
Y Rhaglen
Bydd myfyrwyr yn dilyn rhaglen greiddiol ar y cyd â myfyrwyr astudiaethau cymdeithasol, ond byddant yn cael cyfle yn ystod y flwyddyn i ganolbwyntio ar fodiwlau a fydd yn fwyaf addas ar gyfer dyfodol mewn nyrsio, fel a ganlyn:
Seicoleg, Bioleg Ddynol, Cymdeithaseg Iechyd a Salwch, Moeseg Feddygol, Sylfeini Biolegol Ymddygiad
Dylech fod yn ymwybodol bod angen i’r sawl sy’n gwneud cais i fynd ar gwrs gradd nyrsio gael cymhwyster TGAU cyfoes mewn mathemateg. Rydym ni yng Ngholeg Harlech yn cynnig dosbarthiadau TGAU mewn mathemateg a chymorth i’ch galluogi i adael gyda’r cymhwyster hwn.
Byddwch cystal â darganfod beth yw’r meini prawf ar gyfer mynediad i’r brifysgol o’ch dewis er mwyn sicrhau y byddwch yn gymwys i wneud cais i’r brifysgol honno wedi i chi gwblhau eich cwrs yng Ngholeg Harlech.