"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Three students working at computers

Cyrsiau Preswyl

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen amser-llawn, 1 flwyddyn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae bwrsarïau a llety ar gael i ymgeiswyr cymwys. Cofrestru nesaf Medi 2010.

Ar gyfer cyrsiau wythnos a phenwythnos yng Ngholeg Harlech, defnyddiwch y rhestr gwympo uchod

Technoleg Cerddoriaeth

Tiwtor: Trevor Andrews

Fe’m ganwyd yn Wolverhampton ym 1957. Gadewais yr ysgol yn 16 oed a chefais swydd amser-llawn fel Peiriannydd Electroneg dan Hyfforddiant gyda Chyngor Bwrdeistref Metropolitan Wolverhampton. Treuliais 5 mlynedd yn astudio drwy gyfrwng sesiynau rhyddhau am y dydd a dosbarthiadau nos ac enillais Dystysgrif Technegydd Llawn Radio, Teledu ac Electroneg City & Guilds.

Parheais i weithio fel Peiriannydd Electroneg nes i mi benderfynu troi fy nghefn ar fywyd y ddinas a dod yn Dechnegydd Clyweled yng Ngholeg Harlech ar 1 Awst 1990. Yr adeg hon hefyd dechreuais weithio gyda’r cwmni cynhyrchu fideos masnachol a oedd yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr y coleg o 1990-1993. Bûm yn gweithio fel dyn camera, golygydd fideos ac mewn gwahanol rolau cymorth technegol yn ystod yr amser hwn, gan gynhyrchu rhaglenni corfforaethol a theledu.

Ym 1994 cefais gyfle i astudio am Dystysgrif Addysg (Ôl 16) drwy gyfrwng sesiynau rhyddhau am y dydd, a dosbarthiadau nos a phenwythnos, ac enillais y cymhwyster hwn ym 1997. Ar ôl hyn bûm yn rhannu fy amser rhwng dysgu a chefnogi rhwydwaith cyfrifiadurol a chyfarpar clyweled y coleg.

Yn 2004 roeddwn yn cael fy nghyflogi’n llawn-amser yn CAG(G) Coleg Harlech i weithio ar Dystysgrif Sylfaen Prifysgol Cymru, o fewn y Rhaglen Technoleg Cerddoriaeth i gychwyn ac yna o fewn y Rhaglen Amlgyfrwng newydd.

Ym mis Rhagfyr 2007 deuthum yn Gydlynydd y Rhaglen Technoleg Cerddoriaeth. Rwyf hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr ar y Prosiect Rhagbaratoawl, sy’n cynnwys Prosiect Cynhyrchu Fideos a Phrosiect Dylunio Crysau T.