"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Three students working at computers

Cyrsiau Preswyl

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen amser-llawn, 1 flwyddyn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae bwrsarïau a llety ar gael i ymgeiswyr cymwys. Cofrestru nesaf Medi 2010.

Ar gyfer cyrsiau wythnos a phenwythnos yng Ngholeg Harlech, defnyddiwch y rhestr gwympo uchod

Technoleg Cerddoriaeth

Tiwtor: Mike Hewitt

Enillodd Mike ei radd Baglor mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Llundain, ac enillodd ei radd Meistr a’i Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu’n arbenigo mewn cyfansoddi cerddoriaeth.

Mae’n gerddor sydd wedi derbyn hyfforddiant clasurol, yn gyfansoddwr, ac yn ddarlithydd ac awdur. Mae hefyd yn ysgrifennu sgorau clasurol yn ogystal â thraciau sain ar gyfer gwahanol gynyrchiadau teledu ym Mhrydain a thramor.

Ymysg y llyfrau a ysgrifennwyd gan Mike yn ddiweddar y mae Music Theory for Computer Musicians (a gyhoeddwyd gan Thomson Course Technology) a The Tonal Phoenix (a gyhoeddwyd gan Orpheus Verlag, Berlin).

Ysgrifennwyd y llyfrau hyn yn benodol ar gyfer cerddorion gigio a DJ’s sy’n gwybod sut i chwarae eu hofferynnau ond sy’n awyddus i fynd i’r afael â’r dechnoleg cerddoriaeth sydd ei hangen i gyfansoddi traciau hollol broffesiynol.

Mae Mike yn defnyddio’r arbenigedd hwn i dywys myfyrwyr drwy elfennau cyfansoddi y cwrs technoleg cerddoriaeth.