|
||||||||||
"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands |
||||||||||
|
||||||||||
![]() |
Cyrsiau Preswyl
|
|
Email a friend
AmlgyfrwngTiwtor: Graham Hall, Geoff Bond, Trevor Andrews, Chris Stronge Mae’r Chwyldro Digidol wedi hen gyrraedd. Mae’r offer ar gyfer creu arlunwaith digidol rhyfeddol yn mynd yn fwy pwerus bob dydd. Mae ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, animeiddwyr a dylunwyr yn defnyddio meddalwedd a chaledwedd ddigidol yn ogystal â dulliau mwy traddodiadol. Mae’r cyfleoedd ar gyfer dilyn gyrfa yn y diwydiannau hyn yn aruthrol. Mae’r cwrs Amlgyfrwng amser-llawn preswyl newydd yng Ngholeg Harlech yn integreiddio dulliau traddodiadol cydnabyddedig a thechnolegau digidol newydd mewn ffordd gyffrous ac ymarferol sy’n rhoi llwyfan i’r myfyrwyr hynny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau addysgol ffurfiol i symud ymlaen i ddilyn gyrfa yn y Diwydiannau Celfyddydau Creadigol Digidol neu astudiaethau AU pellach. Gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol a digidol, mae’r cwrs yn ymdrin â sgiliau ymarferol a damcaniaethol mewn Dylunio Gweledol a Graffeg, modelu 2D a 3D, Cyfryngau Gwe, Animeiddio, Delweddu Digidol, Fideo a Darlledu Radio. Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich annog a’ch cefnogi i arbrofi ac i archwilio eich dulliau a’ch potensial proffesiynol technegol a chreadigol mewn astudiaethau sy’n arwain at brif brosiect o’ch dewis eich hun yn ystod y 3ydd tymor a chymryd rhan mewn arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn. Cynnydd Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gallu: Gwerth Credyd 120, Lefel 3 Tymor 1 1. Ymchwilio ac Archwilio Gweledol – 20 credyd Tymor 2 1.Ymchwilio i Brosiect a’i Gynllunio – 10 credyd Tymor 3 1. Celf Ddigidol – 2il hanner modiwl 10 credyd Darperir cymorth astudio Darperir cymorth astudio ychwanegol yn y meysydd canlynol: Profiad blaenorol dymunol a/neu weithgareddau yr awgrymir i chi eu
gwneud ymlaen llaw: |
||||