"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Three students working at computers

Cyrsiau Preswyl

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen amser-llawn, 1 flwyddyn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae bwrsarïau a llety ar gael i ymgeiswyr cymwys. Cofrestru nesaf Medi 2009.

Ar gyfer cyrsiau wythnos a phenwythnos yng Ngholeg Harlech, defnyddiwch y rhestr gwympo uchod

Paentio Tirluniau ar Leoliad yn Eryri

Gorffennaf 5ed – 9fed 2010

BWCIWCH AR-LEIN

Cliciwch yma i islwytho’r ffurflen gais

Rhyddhewch eich creadigrwydd yn ystod y cwrs hyblyg hwn ar gyfer arlunwyr profiadol a di-brofiad fel ei gilydd. Cewch eich annog i ddatblygu arddull bersonol mewn amrywiaeth o gyfryngau 2D a 3D a all gynnwys paent, collage a chlai. Datblygwch bob agwedd ar eich gwaith gyda’ch tiwtoriaid sy’n artistiaid proffesiynol gyda phrofiad o ddysgu oedolion. Byddwch cystal â chysylltu â’r tiwtoriaid, Miranda Edwards a Geoff Bond, os oes gennych unrhyw gwestiynau (01766 780363).

Enw Ysgol Haf eleni yw Natur Ddirgel. Byddwn yn canolbwyntio ar amrywiaeth o sialensiau creadigol sy’n cael eu cynnig gan y dirwedd ac yn eich annog i archwilio cyferbyniadau rhwng manylion bach a golygfeydd panoramig. Yn y pen draw byddwch chi’n cael cyfle i’ch mynegi’ch hun drwy ddehongli cyfansoddiad, manylion, lliw, gwead a ffurf.

Mae’r amgylchedd amrywiol o gwmpas Coleg Harlech, lle ceir traethau, mynyddoedd a môr ynghyd â Chastell Harlech a’i gyffiniau, yn cynnig tirweddau dihafal. Gan ddefnyddio’r amgylchedd lleol yn ysbrydoliaeth, cewch eich tywys drwy’r broses o gynhyrchu brasluniau ac arlunwaith rhagarweiniol gyda’r nod o ddatblygu gwaith ar raddfa fwy. Mae gan yr ardal hon gyfoeth o destunau tirweddol ac arfordirol ac mae pob arlunydd yn cael ei ysgogi ganddi. Safleoedd posibl y gallech ymweld â hwy yw Ynys, Cwm Mordden, Cwm Bychan a’r Bermo.

Rydym yn cymryd yn ganiataol y bydd gennych eich cludiant eich hun er y bydd myfyrwyr yn aml yn rhannu ceir. Os yw cludiant yn broblem, cysylltwch â’r tiwtor. Rydym yn eich cynghori i ddod â chamera digidol ac mae gofyn i fyfyrwyr ddod â’u defnyddiau lluniadu a phaentio eu hunain, gan gynnwys:

• Brwshys – detholiad gan gynnwys brwshys addurnwr
• Paentiau – lliwiau dyfr-sail e.e. paentiau acrylig a dyfrlliw
• Palet cymysgu
• Hylif masgio
• Pensiliau meddal – 2B, 4B, 6B, 8B
• Llyfr braslunio A4
• Cynwysyddion plastig ar gyfer dwr

Rydym ni’n darparu papur graddfa fawr, brwshys ychwanegol, a chlai ac offer ar gyfer gwaith stiwdio. Hefyd, wrth wneud lluniau y tu allan, mae’n bosibl y bydd angen rhywbeth i eistedd arno. Fel rhan o gyfarfod grwp y bwriadwn ei gynnal, byddwch cystal â dod â delwedd o dirlun yr ydych chi’n ei hoffi gan arlunydd yr ydych chi’n ei edmygu.

Amserlen

Dydd Llun 5ed Gorffennaf
Teithio i Harlech

Dydd Mawrth 6fed Gorffennaf
10.00 - 1.00 Cyfarfod a chofrestru yng nghyntedd y Coleg. Dod ynghyd yn y stiwdio Celfyddydau Gweledol. Cyflwyniad a thrafodaeth gyffredinol gyda’r tiwtoriaid. Cyflwyniad sleidiau. Trafodaeth a thaflenni ar dirluniau
1.00 – 2.00pm Cinio hunanarlwyo
2.00 – 5.00pm Cyfarwyddyd ar y topig – paentio a braslunio yn yr awyr agored

Dydd Mercher 7fed Gorffennaf
9.30 – 1.00pm Gweithio yn yr awyr agored yn ardal Harlech. Golygfeydd o’r castell a’r traeth
1.00 – 2.00pm Cinio hunanarlwyo
2.00 – 4.00pm Os oes modd byddwn yn mynd i arddangosfa leol yn ardal Harlech
5.00 – 6.00pm Cyfarfod ym mynedfa’r Coleg. Adolygu a thrafod digwyddiadau’r dydd. Beirniadaeth adeiladol gan y tiwtoriaid

Dydd Iau 8fed Gorffennaf
9.30 – 10.00am Cyfarfod yn y stiwdio Gelf i baratoi ar gyfer gweithio mewn gwahanol fformatau
10.00 – 1.00pm Gwaith stiwdio
1.00 – 2.00pm Cinio hunanarlwyo
2.00 – 5.00pm Gwaith stiwdio
6.30pm ymlaen
Noson gymdeithasol. Pryd o fwyd a chyfarfod yn Harlech (dewisol)

Dydd Gwener 9fed Gorffennaf
9.30 – 1.00pm Adborth ar gynnydd. Adolygiadau o’r gwaith a wnaed