"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Three students working at computers

Cyrsiau Preswyl

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen amser-llawn, 1 flwyddyn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae bwrsarïau a llety ar gael i ymgeiswyr cymwys. Cofrestru nesaf Medi 2010.

Ar gyfer cyrsiau wythnos a phenwythnos yng Ngholeg Harlech, defnyddiwch y rhestr gwympo uchod

Gwybodaeth Gyffredinol

Pwrpas Coleg Harlech yw i ddarparu cyfleoedd addysgol i bobl a gollodd allan pan roeddent yn ifancach.

Mae ymgeiswyr yn 20 oed neu'n hyn yn eu blwyddyn dderbyn, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau addysgol ffurfiol arnynt.

Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr a dderbynnir i'r Coleg.

Mae myfyrwyr yn dod o bob cefndir, daw llawer o gefndir o ddiweithdra, gwaith sgiliau isel a digartrefedd, maent i gyd yn edrych am ffordd i newid eu bywydau trwy addysg.

Dônt i Harlech i ddianc rhag eu hamgylchiadau presennol am flwyddyn i astudio mewn amgylchedd arfordirol i ffwrdd o wrthdyniadau tref fawr neu ddinas.

Mae'r tiwtoriaid wedi ymrwymo i roi'r arbenigedd, arweiniad a chefnogaeth sydd angen ar fyfyrwyr aeddfed i orffen eu dewis cwrs yn llwyddiannus. Cynllunnir yr addysgu i godi hyder ac i beidio â chodi ofn, gan fwyaf mae'n digwydd trwy ddarlithoedd bach, seminarau a thiwtorialau personol.

Mae myfyrwyr yn dilyn cwrs un flwyddyn y'n arwain at Dystysgrif Sylfaenol Prifysgol Cymru naill ai mewn Technoleg Gwybodaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Celfyddydau Perfformiadol, (120 credydau, lefel 3) ac wedyn ymlaen i amrywiaeth eang o swyddi a phroffesiynau.

Dilysir a dyfernir y cymhwyster hwn gan Brifysgol Cymru. I gael gwybodaeth bellach am y Brifysgol a'i gwasanaethau dilysu, ewch i www.wales.ac.uk neu anfonwch e-bost at validation@wales.ac.uk

university of wales logo