|
||||||||||
"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands |
||||||||||
|
||||||||||
![]() |
Cyrsiau Preswyl
|
|
Email a friend
Ydych chi wedi meddwl eich bod yn ddyslecsig?Ai dyma’ch hanes chi?Roeddech chi’n gweithio’n galed yn yr ysgol, ond roedd pobl yn dweud wrthych eich bod chi’n ddiog ac yn dda i ddim. Wedyn, dyma chi’n penderfynu na fyddech chi’n gwneud unrhyw ymdrech. Beth oedd y pwynt, wedi’r cyfan? Rydych chi’n gallu trafod syniadau cymhleth ar lafar, ond pan geisiwch chi eu cofnodi mae’n ymddangos fel petai plentyn yn ysgrifennu ar eich rhan. A oeddech chi’n gorfod gweithio dair gwaith mor galed â’r plant eraill wrth geisio darllen i gyflawni hanner yr hyn yr oeddent hwy yn ei gyflawni? A oeddech chi’n treulio mwy o amser yn ceisio osgoi gwersi yn yr ysgol nag yn mynd iddynt? Os felly, mae’n bosibl eich bod yn dioddef o ddyslecsia neu anhawster dysgu arall. Peidiwch â phoeni - nid yw eich gyrfa addysgol ar ben. Mae gobaith eto. Mae gan Goleg Harlech CAG lu o staff profiadol sy’n ymwybodol iawn o’r math o broblemau yr ydych yn eu hwynebu. Maent yn gwybod am sawl ffordd i’ch helpu. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.Mae gan tua 20% o fyfyrwyr Coleg Harlech rai problemau. Byddwch felly yn cael cefnogaeth gan fyfyrwyr eraill yn ogystal â’r tiwtoriaid. Byddwch yn clywed am brofiadau pobl eraill, ac yn cael cysur o wybod nad chi yw’r unig un sydd â phroblemau. Mae cymorth ar gael i chi fel a ganlyn: Tiwtorialau Cynnwys Asesiad Proffesiynol Cymorth Technegol Dealltwriaeth Dydych chi ddim ar eich pen eich hun Os oes gennych chi broblem, cofiwch eich bod chi mewn cwmni da - mae’r canlynol wedi dioddef o ddyslecsia: Albert Einstein, Winston Churchill, Whoopie Goldberg, Robson Green, Keira Knightley and Sir Steven Redgrave. Beth yw Dyslecsia?Mae miliynau o bobl drwy’r byd yn dioddef o ddyslecsia. Math arbennig o anabledd dysgu sy’n effeithio ar y gallu i ddarllen ydyw. Er bod pobl yn gallu dysgu sut i wneud iawn am eu hanabledd dysgu neilltuol, mae’n ffactor parhaol sy’n effeithio ar y ffordd y mae rhywun yn deall, prosesu, “cymryd i mewn”, cadw, cofio a/neu’n mynegi gwybodaeth. Mae anabledd dysgu penodol yn gallu effeithio ar hunan-barch, addysg, gwaith, cymdeithasu, a bywyd pob dydd person oherwydd ei fod yn cael anhawster gyda gwrando, darllen, ysgrifennu, sillafu, mathemateg, datrys problemau, trefnu, a rheoli amser. Mae pobl ag anabledd dysgu penodol fel dyslecsia yn dysgu ar eu lefel a’u cyflymder eu hunain, ac mae’n bosibl y byddant yn disgleirio mewn rhai meysydd. Byddant yn aml yn anghyson wrth gyflawni eu tasgau pob dydd, er enghraifft, byddant yn gallu sillafu gair arbennig un diwrnod ond yn methu â gwneud hyn y diwrnod wedyn. Rhai o’u profiadau yw anawsterau gyda chanolbwyntio, dirnad, cofio, sgiliau geiriol, rhesymu haniaethol, cydgysylltu llaw a llygad, addasu cymdeithasol a mynegiant, ac mae graddau isel a thangyflawniad yn broblem hefyd. Yn aml, bydd pobl sydd ag anableddau dysgu penodol yn cael eu cyfrif yn ddiog, a chredir eu bod yn gwrthryfela, yn ymddwyn fel clowniaid yn y dosbarth, heb unrhyw gymhelliant, ddim yn ffitio i mewn, neu heb fawr ddim gallu. Gall y syniadau cyfeiliornus hyn, heb ddealltwriaeth o’r problemau, wneud i’r rhai sy’n dioddef o ddyslecsia deimlo’n wrthodedig, yn unig, yn israddol, yn ddigalon a heb hunan-barch. Term cyffredinol am anawsterau dysgu yw dyslecsia. Rhai problemau cyffredinol eraill sy’n gysylltiedig a dyslecsia yw dysgraffia (problemau ysgrifennu), dyscalciwla (problemau gyda mathemateg), a dyspracsia (problemau gyda symudiadau). Mae dyslecsia fel rhedeg ras 100 metr. Mae clwydi ar draws eich llwybr chi, ond mae llwybr pawb arall yn glir. Rydych chi’n teimlo bod hyn yn annheg, ond rydych chi’n ceisio rhedeg fel y gweddill, beth bynnag. Yna, rydych chi’n bwrw un o’r clwydi, ac yn syrthio ar eich wyneb. Mae’r athrawon a phobl eraill yn gwaeddi arnoch chi i wneud mwy o ymdrech, ac felly rydych chi’n codi ac yn ymdrechu’n galed er eich bod yn gweld bod pawb arall ymhell ar y blaen i chi. Rydych chi’n rhedeg yn gyflymach a chyflymach, ac yn gwneud eich gorau glas i ddal y lleill, ond rydych chi’n cael codwm waeth fyth wrth geisio mynd dros y glwyd nesaf. Yna, mae rhywun yn dangos ychydig o ffydd ynoch chi, ac yn cymryd amser i ddangos i chi sut i fynd dros y clwydi, ac yn awr mae gennych chi obaith o ddal i fyny â phawb arall, a hyd yn oed o fynd heibio i rai ohonynt. Yr ateb yw gwneud pethau’n wahanol, a dewis y ffordd orau i chi. Mae pob aelod staff yng Ngholeg Harlech CAG yn barod i ddangos y ffydd yma ynoch chi a’ch gallu, fel y gallwch redeg y ras academaidd heb faglu dros y clwydi. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Elaine Cox ar 01766 781900 Neu anfonwch e-bost at: info@fc.harlech.ac.uk |
||||