"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Three students working at computers

Cyrsiau Preswyl

Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen amser-llawn, 1 flwyddyn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae bwrsarïau a llety ar gael i ymgeiswyr cymwys. Cofrestru nesaf Medi 2010.

Ar gyfer cyrsiau wythnos a phenwythnos yng Ngholeg Harlech, defnyddiwch y rhestr gwympo uchod

Beth am gychwyn eich cwrs gradd mewn astudiaethau cymdeithasol yng Ngholeg Harlech?

Twtoriaid Mark Jenkins and Paula Rhodes

Mae’n bosibl dilyn blwyddyn gyntaf y cwrs gradd mewn Astudiaethau Cymdeithasol a gynigir gan Brifysgol BangorBrifysgol Bangor yng Ngholeg Harlech.

Byddwch yn dilyn blynyddoedd dilynol eich cwrs gradd ym Mhrifysgol Bangor.

Gellir dilyn blwyddyn gyntaf cwrs gradd Prifysgol Bangor (Adran Dysgu Gydol Oes) mewn Astudiaethau Cymdeithasol yng Ngholeg Harlech, dan ofal Mark Jenkins (Arweinydd y Cwrs) a Paula Rhodes.

Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cynnwys cyflwyniad i’r gwyddorau cymdeithasol, a rhaid i bob ymgeisydd gwblhau’r rhan hon cyn symud ymlaen i’r ail a’r drydedd flwyddyn, y mae’n rhaid eu dilyn yn y brifysgol ym Mangor.

Mae’r dilyniant yn cynnwys cyrsiau mewn Cymdeithaseg/Iechyd, Cymdeithaseg/Trosedd a Chyfiawnder, Cymdeithaseg, Hanes a llawer mwy. (Nid yw’r bosibl mynd ymlaen i unrhyw gyrsiau galwedigaethol megis nyrsio neu waith cymdeithasol o’r cwrs hwn, na chwaith i astudio Seicoleg.)

Gall myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Astudiaethau Cymdeithasol/Mynediad i Nyrsio Coleg Harlech symud ymlaen i’r cwrs gradd, a gall unrhyw un sydd heb gwblhau’r cwrs hwn wneud cais, cyn belled â’u bod yn cwrdd â’r gofynion mynediad. Gallai hyn gynnwys cwrs diweddar a astudiwyd mewn coleg, pa un a gafodd ei gwblhau ai peidio. Mae angen tystiolaeth arnom o’r astudio a wnaed gennych yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae croeso i chi gysylltu â Mark Jenkins neu Paula Rhodes i gael gwybodaeth bellach ac i drefnu cyfweliad anffurfiol.

Meddai Nicki Walker, un o’r myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs. "Penderfynais dreulio blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd yng Ngholeg Harlech, gan fod hyn yn ddelfrydol i rywun fel fi sydd wedi bod allan o addysg am gyfnod hir. Mae’n llawer mwy cartrefol na’r Brifysgol ac mae’r tiwtoriaid yn gallu cynnig mwy o gefnogaeth.”

Os ydych yn dymuno gwneud cais, bydd yn rhaid i chi ddilyn trefn safonol UCAS.

Ceir gwybodaeth am y cwrs ar wefan Prifysgol Bangor

I gael rhagor o wybodaeth byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddog Derbyn Myfyrwyr ar 01766 781900.