Polisi Canslo
Os byddwn ni’n canslo’r cwrs
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y cyrsiau a hysbysebir yn y prosbectws yn cael eu cynnal, ond ambell waith bydd CAG(G) Coleg Harlech yn gorfod canslo cyrsiau. Os digwydd hyn, byddwn yn eich hysbysu 4 wythnos cyn dechrau’r cwrs, a byddwch yn cael cynnig lle ar gwrs arall neu’n cael cynnig eich arian yn ôl yn llawn.
Os byddwch yn tynnu’n ôl o’r cwrs llawn
Os na fyddwch yn gallu dod ar y cwrs, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn hapus i gynnig lle ar gwrs arall i chi os bydd hyn yn bosibl.
Os byddwch yn rhoi gwybod i ni mewn ysgrifen bythefnos neu ragor cyn dechrau’r cwrs, byddwn yn ad-dalu unrhyw daliad a wnaed gennych (ar wahân i’r blaendal, na ellir ei ad-dalu, a thaliad o £5 am ganslo).
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni mewn ysgrifen cyn dechrau’r cwrs, bydd yn rhaid i chi dalu’r ffi lawn, ac ni roddir unrhyw ad-daliad.
Os na fyddwch yn gallu mynychu’r cwrs cyfan, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw ddisgownt nac ad-daliad i chi os nad ydych yn gallu mynychu rhan o gwrs.