Cyrsiau Preswyl Coleg Harlech
Mae ein rhaglen breswyl yn cynnwys cyrsiau llawn o un flwyddyn a chyrsiau wythnos/penwythnos byr. Dewiswch o’r meysydd cwympo uwchben y pynciau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae gan y tiwtoriaid brofiad helaeth o ddysgu oedolion a bydd eu brwdfrydedd at y pwnc yn eich ysgogi a rhoi mwynhad i chi.
Mae Coleg Harlech wedi’i leoli yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol
Eryri, a cheir oddi yma olygfeydd gwych dros Fae Tremadog. Pan na fyddwch yn
astudio, gallwch fanteisio ar y cyfleoedd lleol, gan gynnwys Theatr Ardudwy,
Clwb Golff Royal St David’s, ynghyd â'r pwll nofio dan do cyhoeddus,
y cyrtiau tenis a’r ganolfan chwaraeon yn Harlech.
Ewch am dro i Gastell Harlech, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, neu i dref hynafol Harlech, neu gallwch gerdded i lawr at y traeth lle mae milltiroedd o dywod melyn i fwynhau’r machlud ysblennydd. Gall y cerddwyr mwy brwdfrydig yn eich plith ddringo’r Grisiau Rhufeinig a’r Rhinogydd.
|