Newyddion
Datganiad i’r Wasg
Cyhoeddi Adroddiad y Grwp Adolygu Gweinidogol ar CAG Coleg Harlech
Gofynnwyd yn ddiweddar i dîm adolygu o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
ystyried sut y câi CAG Coleg Harlech ei chyllido yn y dyfodol, yn
enwedig mewn perthynas â’r cynlluniau arfaethedig i wella’r
cyfleusterau a’r llety ar y safle fel rhan o brosiect Canolfan Cambria.
Cyhoeddwyd yr adroddiad ar y 12fed o Fawrth.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu’r ffaith bod adroddiad y Grwp
Adolygu Gweinidogol yn cydnabod y profiad dysgu o ansawdd uchel y mae
Coleg Harlech yn ei gynnig.
“Cafodd y Grwp Adolygu ei daro gan frwdfrydedd, ymrwymiad ac ymroddiad
Cadeirydd Llywodraethwyr, pennaeth, staff a myfyrwyr CAG Coleg Harlech
i ddyfodol y Coleg ... Mae’r Grwp Adolygu wedi darllen yr adroddiad
arolygu diweddar gan Estyn ac yn rhannu gyda’r Gymdeithas pa mor
fodlon oeddent gydag ansawdd y ddarpariaeth.”
Roedd y Grwp Adolygu hefyd yn cydnabod cyfraniad pwysig CAG Coleg Harlech
o ran cwrdd â nodau’r Cynulliad Cenedlaethol.
“Yn enwedig, roeddem yn cydnabod faint o’r gwaith yng Ngholeg
Harlech, fel yng ngweddill y Gymdeithas, oedd yn gyson â’r
amcanion ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, dinasyddiaeth, a gweithio gyda
rhai sydd ar gyrion cymdeithas. Gwelsom hefyd sut oedd y Gymdeithas yn
cyfrannu at leihau nifer y bobl nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant
(NEETs)”
Fodd bynnag, er cydnabod y gwaith gwerthfawr a wneir yng Ngholeg Harlech
a’r ffaith bod y profiad yn newid bywydau llawer o’r myfyrwyr,
gorffennodd y Grwp Adolygu ei Adroddiad drwy ddweud:
“Er ein bod yn cydnabod y gellid cael amrywiaeth o fanteision posibl
o fuddsoddi cyfalaf a chyllid rheolaidd yng Ngholeg Harlech ni welsom
unrhyw dystiolaeth fod yna ddadl addysgol, dreftadol, ddiwylliannol nac
economaidd bwysig dros wneud hyn. Gwelsom nifer o fanteision yn gysylltiedig
â ffydd angerddol yn nharddiad a hanes y coleg, a dathlu cyflawniadau'r
rhai sy’n profi hynny, ond yn y cyfnod hwn o benderfyniadau anodd
mae’n anodd peidio â dod i’r casgliad y byddai cynlluniau
eraill a fyddai’n cyrraedd nifer mwy o fuddiolwyr yng Nghymru yn
cael blaenoriaeth uwch.”
Meddai Annie Williams, y Pennaeth, mewn ymateb i’r Adolygiad:
“Rydym yn hynod o siomedig gyda chanlyniad yr adolygiad, ac rydym
yn amau dilysrwydd rhai o’r casgliadau, yn enwedig mewn perthynas
â’r cyfraniad a wneir gan Goleg Harlech i’r economi
lleol. Mae’r 58 o swyddi parhaol, a’r myfyrwyr sy’n
mynychu cyrsiau hir a byr drwy gydol y flwyddyn, yn cyfrannu’n sylweddol
at economi a bywyd y gymuned. Mae’r adroddiad yn dweud:
‘Fel uned o’r economi yng Ngwynedd, mae Coleg Harlech yn
sefyll yng nghysgod potensial Gwesty Dewi Sant, Clwb Golff Brenhinol Dewi
Sant ac adfywiad maes awyr Llanbedr, fel maes awyr a lleoliad i fusnesau.
O ran creu swyddi, mae addewid y cyfraniad hwn, ynghyd â’r
theatr, yn troi’r fantol yn erbyn y posibilrwydd o golli swyddi
yng Ngholeg Harlech.’
Mae’r adroddiad yn tanbrisio’n ddybryd bwysigrwydd Coleg
Harlech fel cyflogwr a thirfeddiannwr.
Mae’r Gymdeithas yn siomedig iawn â llawer elfen yn yr adroddiad,
ond mae’n awyddus i bwysleisio ei bod yn benderfynol o barhau i
ddarparu cyfleoedd preswyl i ddysgwyr aeddfed yn Harlech. Bydd yn awr
yn llunio blaengynllun ar gyfer yr ystâd, cwricwlwm a chynhyrchu
busnesau sy’n adeiladu ar y cryfderau a nodwyd gan arolygiad Estyn
o’r Coleg. Bydd hefyd yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi myfyrwyr
a chynhyrchu ffynonellau incwm ychwanegol.
DIWEDD
Cysylltiad i’r Wasg
Ros Owen 01745 817289
ros.owen@fc.harlech.ac.uk
Cadarnhaodd Coleg Harlech heddiw ei fod wedi cymryd les ar Gartref Nyrsio
Plas Amherst yn Harlech wedi i’r perchennog gysylltu â’r
Coleg.
Meddai Annie Williams, Pennaeth Coleg Harlech, “Cawsom drafferthion
mawr yn y Neuadd Breswyl y mis diwethaf, a deallwn ei bod yn debyg y
bydd ar gau hyd y Nadolig o leiaf. Roedd y cynnig hwn gan Blas Amherst
yn amserol iawn felly ac mae hyn yn golygu y gallwn groesawu myfyrwyr
i Goleg Harlech pan fydd y tymor yn dechrau ym mis Hydref.”
CAG Coleg Harlech yw’r coleg cyntaf i ennill Dyfarniad Ansawdd
TUC Cymru
Mae gan TUC Cymru berthynas hir a chadarn gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr
a Choleg Harlech. Roedd felly yn hynod o falch o dderbyn cais am Ddyfarniad
Ansawdd gan y gymdeithas gyfunedig. CAG Coleg Harlech yw’r darparwr
addysg cyntaf yng ngogledd Cymru i dderbyn y Dyfarniad Ansawdd.
Yng nghanolbarth a gogledd Cymru, mae’r Adran Dysgu yn y Gweithle,
mewn partneriaeth â’r Undebau wedi mynd â dysgu a hyfforddi
i’r cwmnïau sector cyhoeddus a sector preifat sydd â
chysylltiad beunyddiol bron â’n bywyd pob dydd, er enghraifft,
Kellogs, Grampian Foods a Tesco, neu Anglesey Aluminium, ysbytai, y frigâd
dân, y swyddfa dreth incwm a, pan fyddwch ar eich gwyliau yng ngogledd
Cymru (allwch chi ddim mynd yn llawer uwch na hyn) Lein Bach yr Wyddfa.
Mae’r mudiad llafur a CAG Coleg Harlech yn cefnogi’r ethos
o ehangu cyfranogiad ac ymgyrraedd at ddysgwyr anodd eu cyrraedd a dysgwyr
anhraddodiadol megis dynion hyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, gweithwyr
sifft a gweithwyr rhan-amser.
Mae gan yr Adran Dysgu yn y Gweithle enw rhagorol am fynd â dysgu
at y grwpiau hyn o weithwyr yn eu gweithleoedd eu hun.
Cefnogwyd y cais am y Dyfarniad Ansawdd gan swyddogion undeb rhanbarthol
a gadarnhaodd fod y tiwtoriaid yn gefnogol a chyfeillgar a bod meithrin
hyder yn ffactor allweddol ar bob cwrs.
Dywedodd un swyddog addysg, “Mae ganddynt (CAG) ymrwymiad cryf i
ddysgu.” Un o’r enghreifftiau niferus a roddwyd oedd sut yr
oedd un tiwtor wedi mynd i drafferth fawr, gan alw ffafrau i mewn hyd
yn oed, er nad oedd o unrhyw fantais bersonol iddo ef, i helpu swyddog
undeb, gan y byddai dysgwyr yn elwa yn y pen draw.
Mae’r Adran Dysgu yn y Gweithle yng Ngholeg Harlech yn goresgyn
yr holl rwystrau sy’n bodoli er mwyn mynd â dysgu allan i
fywydau pob dydd ein haelodau undeb. Mae’r ymrwymiad cryf hwn, a’r
gred y dylai dysgu, addysg a hyfforddiant fod ar gael i bob oedolyn, o
fudd mawr i unigolion, eu teuluoedd a’n cymunedau.
Wakeel Ibrahim, myfyriwr astudiaethau amlgyfrwng, yn derbyn Gwobr Sefydliad
Helena Kennedy
Mae gan Sefydliad Helena Kennedy gynllun bwrsari i roi cymorth ariannol
mawr ei angen i fyfyrwyr difreintiedig sydd wedi cwblhau cwrs addysg bellach
yn llwyddiannus ac sy’n awyddus i fynd ymlaen i addysg uwch.
Heb unrhyw deulu o’i gwmpas, mae Wakeel wedi wynebu cynni ariannol,
ac mae hyn wedi ei annog i ddychwelyd i addysg er mwyn creu dyfodol gwell
iddo’i hun.
Mae gan Wakeel ddiddordeb mawr ym maes amlgyfrwng, ac mae’n dymuno
mynd ymlaen i astudio mewn prifysgol. Dywedodd Graham
Hall, ei diwtor yng Ngholeg Harlech, fod Wakeel yn ‘fyfyriwr
ymroddedig a brwd’. Bydd Sefydliad Helena Kennedy, a noddir gan
Edge, yn darparu cymorth ariannol i Wakeel pan fydd yn mynd i Brifysgol
Huddersfield i ddilyn cwrs astudiaethau amlgyfrwng. Cyflwynwyd y wobr
i Wakeel yn Nhy’r Arglwyddi gan y Farwnes Helena Kennedy a Neil
Kinnock.
Ffoto
Coleg Harlech yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer Canolfan Cambria
Heddiw (26 Medi) datgelodd Coleg Harlech ei gynlluniau ar gyfer datblygiad
newydd arfaethedig o’r enw ‘Canolfan Cambria’.
Eglurodd Annie Williams, y Pennaeth, fod Coleg Harlech angen adeilad newydd
gan fod y stad mewn cyflwr gwael yn gyffredinol a chan nad yw llawer o’r
adeiladau bellach yn briodol ar gyfer gweithgareddau presennol y Coleg. Mae
adeilad Theatr Harlech hefyd angen buddsoddiad sylweddol.
Aeth Ms Williams ymlaen i egluro y bydd y gymuned leol yn elwa o gael adnodd
cymunedol a fydd yn cynnwys llyfrgell, theatr, gweithdai, arddangosfeydd, theatr
gymunedol, a chyfleusterau ar gyfer corau, dawnsfeydd a digwyddiadau cymdeithasol,
ynghyd â chyfleusterau cynadledda ac unedau ar gyfer datblygu busnesau.
Ar gyfer gwybodaeth bellach
Cynlluniau
Darparwyr addysg yng Ngogledd Cymru yn cael y graddau gorau yng Nghymru
Cafodd y bartneriaeth sydd ar waith yng Nghonwy rhwng Coleg Llandrillo, CAG Coleg Harlech, Prifysgol Cymru Bangor a Choleg Llysfasi ganmoliaeth uchel gan arolygwyr Estyn yn ddiweddar.
Cafodd y darparwyr y graddau uchaf yng Nghymru, gan gynnwys gradd 1 ar gyfer Datblygu Cymunedol, Addysg Oedolion a Chymraeg i Oedolion.
Llwyddiant Ariannol i Gefnogi Dysgwyr
Mae Rhaglen Amlgyfrwng Coleg Harlech wedi gwneud cais llwyddiannus diddorol, sy’n werth dros £250,000.
Bu Splice (ar y cyd â Phrifysgol Bolton â’r Cyd-bwyllgor
Systemau Gwybodaeth (JISC) yn llwyddiannus er gwaethaf cystadleuaeth frwd.
Mae’n canolbwyntio ar yr her o feithrin sgiliau technolegol ar gyfer
dysgu gydol oes. Bydd hefyd yn adeiladu rhwydwaith cymdeithasol o ymarferwyr,
addysgwyr a myfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Graham Hall ebost
Prosiect Addysg Gymraeg a Dwyieithog
Mewn cydweithrediad â’r Mentrau Iaith, rydym wedi sicrhau prosiect
gwerth £179,000 i hyrwyddo addysg gymunedol alwedigaethol cyfrwng
Cymraeg a dwyieithog.
Rhagwelir y gall ein cynlluniau gyfrannu at gynnydd sylweddol mewn addysg gymunedol arloesol a blaengar i oedolion. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dafydd Rhys ar 01766 515298, e-bost
Coleg Harlech yn Croesawu Myfyrwyr AU
Mae wyth dysgwr aeddfed eleni wedi dewis dilyn blwyddyn gyntaf eu cwrs gradd Astudiaethau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor yng Ngholeg Harlech.
Meddi Nicki Walker
“Cyn dod i Goleg Harlech, roeddwn yn arfer rhedeg busnes glanhau bychan. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn codi teulu ac yn gweithio’n galed yn gorfforol, penderfynais ei bod yn bryd i mi ddechrau defnyddio fy mhen yn hytrach na’m corff.
Penderfynais dreulio blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd yng Ngholeg Harlech, gan fod hyn yn ddelfrydol i rywun fel fi sydd wedi bod allan o addysg am gyfnod hir. Mae’n llawer mwy cartrefol na’r Brifysgol ac mae’r tiwtoriaid yn gallu cynnig mwy o gefnogaeth. Mae dod i Goleg Harlech wedi cynnig cyfoeth o gyfleoedd i mi na fyddwn wedi meddwl eu bod yn bosibl flwyddyn yn ôl.”
Lansio llyfr y Canmlwyddiant
Ysgrifennwyd llyfr sy’n adrodd hanes CAG o’r cychwyn cyntaf fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y Gymdeithas. Dywed Glenys Kinnock yn y rhagymadrodd:
“Mae’n bleser gennyf groesawu’r llyfr hwn sy’n adrodd hanes brwydrau’r arloeswyr yn ogystal â’u llwyddiannau, sy’n sôn am weledigaeth ac ymroddiad ac sydd, drwy dystiolaeth bersonol, yn dangos yn eglur waith Coleg Harlech a CAG o safbwynt newid bywydau pobl ac yn ein hatgoffa eto o’r cyfraniad y maent wedi’i wneud i gymdeithas sifil yng Nghymru. Mae CAG bob amser wedi galluogi dynion a merched i wynebu problemau cyfoes pwysig; mae angen hyn heddiw cymaint ag erioed, ac mae’n haeddu cefnogaeth lawn yr asiantaethau ariannu.”
I gael copïau o’r llyfr Changing Lives a olygwyd gan Joe England (cyn Warden Coleg Harlech), cysylltwch â Iona Jones ar 01766 781925, info@fc.harlech.ac.uk.
Anrheg pen-blwydd i David wrth iddo ddychwelyd i Goleg Harlech.
Yn 2004, penderfynodd David Gwinnett, ac yntau’n 56 oed, fod yr amser wedi dod i roi’r gorau i’w swydd fel peintiwr arwyddion a chofrestru yng Ngholeg Harlech i astudio Celf a Dylunio. Roedd David wedi bod yn arfer peintio er mwyn mynd â’i feddwl oddi ar bethau, ond pan ddaeth i Goleg Harlech magodd yr hyder angenrheidiol i roi ei syniadau haniaethol ar bapur.
Ers gadael Coleg Harlech mae David wedi sefydlu stiwdio yn ei ardd, ac mae’n gallu treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn peintio
Mae’n falch o fod yn ôl, y tro hwn yn arddangos ei waith yng nghyntedd Theatr Harlech. Mae hefyd yn cael ei ben-blwydd, ac felly roedd hyn yn anrheg wych.
Pryd Blasus i Bensiynwyr
Gwnaed pryd tymhorol i bensiynwyr yn Llangefni fel rhan o’r prosiect bwyta’n iach yn y dref.
Mae saith rhiant o Ward Tudur wedi bod yn dilyn cwrs Coginio 30 wythnos, sef “Hwyl a Hyder drwy Goginio” gyda CAG Coleg Harlech fel rhan o gynllun a gefnogir gan Gymunedau’n Gyntaf a Medrwn Môn.
Y Nadolig diwethaf, darparwyd pryd tri chwrs yng Nghlwb Pêl-droed Llangefni ar gyfer tua 60 o breswylwyr hŷn o’r ward.
Meddai Susan Condra, cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf yn Ward Tudur:
"Roeddynt yn awyddus iawn i drefnu’r cinio hwn ac mae wedi golygu llawer o waith gan fod popeth wedi cael ei wneud gartref. Roedd y pensiynwyr a ddaeth yn werthfawrogol iawn.”
"Byddant yn awr yn parhau â’r cwrs coginio ymarferol er mwyn ennill cymhwyster Rhwydwaith Coleg Agored.”
|