"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
A smiling female mature student

Cyrsiau Cymunedol

Yn ôl Lleoliad

Cymorth i Fyfyrwyr

Cyngor Gyrfaoedd

Mae’r cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Gyrfa Cymru

Datganiad Anabledd

Mae CAG (G) Coleg Harlech yn annog ceisiadau gan unigolion sydd ag anawsterau neu anableddau.

Mae datganiad o genhadaeth y Gymdeithas yn cyfeirio at egwyddor addysg gynhwysol i bawb a phwysigrwydd datblygu potensial llawn ei holl ddysgwyr.

Mae’r Gymdeithas yn cydnabod, oherwydd natur amrywiol y safleoedd a ddefnyddir, y gall myfyrwyr ag anableddau corfforol wynebu problemau o ran mynediad mewn rhai achosion.
Mae’r datganiad llawn ar gael yn y ddogfen hon

Sgiliau Sylfaenol a Hanfodol

I gael cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg cysylltwch a Sian Roberts yng Ngholeg Harlech CAG ar 01766 780363 neu anfonwch ebost

Cymorth Ariannol

Y Gronfa Ariannol wrth Gefn (CAWG/FCF)

Cronfa a ddarperir gan DELLS yw hon i helpu dysgwyr nad ydynt, oherwydd caledi ariannol, yn gallu dechrau neu aros ar gwrs Addysg Bellach.

Cyllid Atodol (ADA)

Gall DELLS ddarparu arian ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag Anawsterau Dysgu a/neu Anableddau (ADA).

Cyfrif Dysgu Unigol Cymru

Gallai Cyfrif Dysgu Unigol Cymru (CDU/ILA Cymru) eich helpu i dalu am yr hyfforddiant y mae ei angen arnoch i wella eich sgiliau a chael swydd. Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn rhwng £100 a £200 tuag at gostau dysgu, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Grantiau Dysgu’r Cynulliad

Grant arbennig yw hwn i helpu pobl ar incwm isel i gael mynediad i addysg bellach ac addysg uwch.
Pwrpas y grant yw helpu gyda chostau megis llyfrau, offer, teithio a gofal plant tra ydych yn astudio.
Darperir y grantiau hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy eich Awdurdod Addysg Lleol.