Y Prosiect Meddwl Agored
![]() |
![]() |
Rhaglen arloesol wedi’i hariannu gan y loteri yw Meddwl Agored. Ei nod
yw darparu cyfleoedd dysgu i aelodau’r gymuned sydd â phroblemau
iechyd meddwl ac i bobl sydd mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl,
ac mae’n ymestyn dros ardal gyfan CAG Coleg Harlech.
Os hoffech wybod mwy am Meddwl Agored, cysylltwch â Sarah O'Connell Jones
ar 01248 353254.
Ers lansio’r rhaglen ym mis Mehefin 2009, mae’r tîm wedi bod yn datblygu partneriaethau gwaith gydag asiantaethau sy’n gweithio gydag aelodau o’r gymuned sydd â phroblemau iechyd meddwl. Am enghreifftiau o'n gwaith lwytho i lawr y cylchlythyr Mis Mawrth 2011., Mis Medi 2011 a Mis Mawrth 2012
Mae’r prosiect Meddwl Agored yn cynnwys nifer o elfennau arloesol. Mae’r model cwricwlaidd yn defnyddio ymagwedd thematig fel bod dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu ac archwilio drwy ystod o feysydd pwnc sy’n gysylltiedig â thema y cytunwyd arni. Yn ychwanegol at hyn, gall Meddwl Agored deilwra hyd a strwythur cyrsiau i gwrdd ag anghenion y grwp a sicrhau bod y dysgwr yn ganolog i’r broses ddysgu.
Dyma enghreifftiau o’r cyrsiau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd:
Prosiect arloesol ar y rhestr fer ar gyfer prif wobr
Mae
prosiect addysgol arloesol i helpu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd
meddwl yn cael ei ystyried ar gyfer gwobr bwysig.
Mae prosiect Meddwl Agored CAG Coleg Harlech ar y rhestr fer yng Nghategori Arfer Cynhwysol Gwobrau Colegau Cymru 2012.
Yn ôl Sarah O’Connell Jones, Rheolwr y Prosiect, mae’r cynllun yn cael croeso mawr gan ddysgwyr ar hyd a lled Gogledd Cymru.
Meddai: “Mae gan CAG Coleg Harlech hanes hir o weithio efo dysgwyr sydd
wedi’u cau allan yn gymdeithasol, sydd wedi’u difreinio neu’n
sy’n cael eu dosbarthu’n anodd eu cyrraedd.
Gwybodaeth lawn
Prosiect arloesol sy’n helpu pobl i dyfu
Mae
myfyrwyr aeddfed sy’n dilyn cwrs garddio arloesol yng Nghanolbarth Cymru
yn gwneud hanes – yn ogystal â thyfu ffrwythau a llysiau.
Mae prosiect Meddwl Agored yn y Drenewydd wedi cael ei lunio i “newid
bywydau” pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl neu sydd mewn
perygl o ddioddef o broblemau o’r fath.
Mae’n cael ei gynnal gan CAG Coleg Harlech, yr arbenigwyr addysg oedolion,
mewn partneriaeth â
Chymdeithas Ponthafren, yr elusen iechyd meddwl, yn Longbridge Street.
Gobaith y garddwyr uchelgeisiol yw sefydlu menter gymdeithasol i werthu cynnyrch,
a chynnig gwasanaethau cynllunio a thirlunio gerddi o bosibl yn y dyfodol.
Fel rhan o’r cynllun garddio, mae pump ohonynt hefyd yn astudio am Ddiplomâu mewn Dilyniant a Chyflogadwyedd a achredir gan Agored Cymru.
Credir mai hwy yw’r rhai cyntaf yng Nghymru i astudio am ddiplomâu mor heriol drwy ganolfan iechyd meddwl.
Gwnaeth eu cyflawniadau gryn argraff ar Rebecca Evans a Joyce Watson, Aelodau o’r Cynulliad ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, a oedd wedi dod i weld y prosiect.
Meddai Rebecca Evans: “Mae’n wych. Dydw i ddim yn meddwl bod modfedd o le wedi cael ei gwastraffu ac mae eu cynlluniau ar gyfer datblygiadau pellach yn uchelgeisiol iawn.”
Ychwanegodd Joyce Watson, sy’n arddwraig frwd ei hunan: “Rydw i
wedi gweld sut y gall pobl ddysgu sgiliau mewn ffordd hamddenol a sut y gallan
nhw yn llythrennol fwynhau ffrwyth eu llafur, a sut y bydd hynny ynddo’i
hun yn rhoi hyder iddyn nhw.”
Gwybodaeth lawn
Celf i bawb, medd Tess
Mae
Therese Urbanska, neu Tess fel mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn ei galw
hi, wedi gweithio i CAG Coleg Harlech ers 2004. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio
fel Tiwtor Celf allan yn y gymuned.
Mae Tess, sy’n 31 oed ac yn byw yn Rhydyclafdy ger Pwllheli, yn credu’n angerddol y dylai celf fod yn hygyrch i bawb.
Meddai: “Wrth addysgu yn y gymuned rydyn ni’n gweld pobl o bob
gallu. Fe fydda i’n defnyddio gwaith collage i ddysgu celf ac mae’n
wych gan fod pobl mor ifanc â thair oed ac mor hen ag 80 oed yn gallu
ei wneud.
“Gall hyd yn oed rhywun efo anabledd neu anhawster dysgu godi’r
glud neu frwsh paent ac maen nhw wir yn ei fwynhau.
“Rydw i’n credu y gall dosbarthiadau celf hybu iechyd a lles pobl
yn gyffredinol. Mae’n beth cymdeithasol. Nid y broses ydy’r unig
beth, mae yna deimlad o fod yn rhan o grwp hefyd. Maen nhw’n dysgu sgiliau
newydd.”
Yn ôl Tess, sy’n fam i ddau o blant, mae ei gwaith yn “rhoi
boddhad mawr iddi” ac yn gwneud iddi deimlo’n “falch iawn”.
Ychwanegodd: “Dywedodd un cleient nad oedd hi’n gallu dal brwsh
paent ond rwan mae hi’n gallu defnyddio glud a brwsh paent ac mae hi’n
gwneud yn dda iawn. Dyna holl ddiben y gwaith.”
Mae un o ddosbarthiadau celf Therese yn cael ei gynnal yn Hafal Porthmadog.
Corff cenedlaethol yw Hafal sy’n cefnogi pobl sy’n dioddef o broblemau
iechyd meddwl. Mae’r dosbarthiadau hyn yn rhan o brosiect
Meddwl Agored CAG Coleg Harlech a ariennir drwy’r Gronfa Loteri Fawr.
Dywedodd Chris Eastwood, Is-Gadeirydd Hafal, fod y tiwtorialau celf yn golygu
llawer iawn i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
“Rydyn ni wedi darganfod bod gweithgareddau dyddiol ystyrlon fel y dosbarthiadau
celf yn hynod o ddefnyddiol,” meddai.
Meddai Sarah O’Connell Jones, rheolwr Meddwl Agored: “Mae Tess
yn diwtor gwerthfawr iawn. Mae ganddi agwedd hynod o bositif a hyblyg, felly
mae’r dysgwyr yn teimlo’n gysurus ac yn cael eu hysbrydoli i ddangos
eu doniau artistig.”
Llwyddiant A Thystisgrifau I Weithwyr Antur Waunfawr
Bu
Russell Jones y garddwr a chyflwynydd teledu yn Antur Waunfawr ar Fawrth 1af
i gyflwyno tystysgrifau garddio a sgiliau elfennol i rai o’r gweithwyr.
Trefnwyd y digwyddiad ar ddydd Gwyl Dewi gan gynllun Meddwl Agoreg Coleg Harlech
CAG ac Antur Waunfawr er mwyn dathlu llwyddiant y gweithwyr oedd wedi ennill
cymwysterau Agored dros y flwyddyn academaidd 2009-2010.

