Ffioedd a Chonsesiynau
Mae ein strwythur ffioedd wedi’i llunio i sicrhau bod pawb sy’n gallu gwneud hyn yn gwneud cyfraniad tuag at gost eu cwrs, ac i sicrhau yr un pryd nad yw unrhyw un yn cael ei rwystro rhag mynychu un o ddosbarthiadau CAG Coleg Harlech oherwydd anawsterau ariannol.
Ffi Gofrestru Mae’r ffi ar gyfer pob cwrs a restrir yn y prosbectws hwn yn cynnwys ffi gofrestru o £10. Sylwer: codir ffi gofrestru o £10 ar bob dysgwr, gan gynnwys y rheiny sy’n gymwys i fynychu cwrs am bris gostyngol fel y nodir isod.
Consesiynau
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael consesiwn os ydych yn derbyn budd-daliadau ar y 1af o Fedi blwyddyn yma. Sylwch na allwch wneud cais am fwy nag un o’r consesiynau sydd ar gael isod.Rhaid i chi ddod â thystiolaeth ddogfennol gyda chi i gefnogi eich cais i dalu’r ffi leiafswm wrth gofrestru ar gyfer cwrs. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei harchwilio ond ni fyddwn yn ei llungopïo.
Os ydych yn derbyn Budd-daliadau sy’n destun Prawf Moddion
Os ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau isod sy’n destun Prawf Moddion, gallwch ddisgwyl talu’r ffi leiafswm a nodir ar gyfer y cwrs yn y prosbectws hwn.Budd-daliadau sy’n destun Prawf Moddion (hynny yw, budd-daliadau sy’n
dibynnu ar eich incwm chi ac incwm eich teulu, i gydymffurfio â’r
lleiafswm incwm a osodir gan y Llywodraeth i fyw arno).
Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar incwm)
Cymhorthdal Incwm neu Ychwanegiadau Cymhorthdal Incwm
Budd-dal Tai
Budd-dal Treth Cyngor (seiliedig ar incwm)
Ychwanegiad Credyd Pensiwn at Bensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn derbyn Budd-daliadau nad ydynt yn destun Prawf Moddion
Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau isod nad ydynt yn destun Prawf Moddion, byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn y pris o 20c yr awr.Sylwer nad oes manylion am y pris gostyngol hwn yn y prosbectws – cysylltwch â’r swyddfa ardal i gael gwybodaeth bellach.
Budd-daliadau nad ydynt yn destun Prawf Moddion (hynny yw, budd-daliadau a
delir beth bynnag yw eich incwm) ac Ychwanegiadau at Enillion
Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
Lwfans Byw i’r Anabl
Budd-dal Analluogrwydd
Credyd Treth Gweithio gan Gyllid y Wlad
Ychwanegiadau at Enillion
Costau Eraill
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol ynghlwm wrth rai cyrsiau, er enghraifft,
ffi
arholiad neu gost defnyddiau. Fodd bynnag, os oes angen cymorth arnoch i dalu
am y rhain, byddwch
cystal â siarad â’ch tiwtor neu ffoniwch eich swyddfa ardal
leol.
Ad-daliad
Ni fyddwch yn gallu cael ad-daliad oni bai bod CAG(G) Coleg Harlech wedi diddymu’r cwrs.
Cofrestriadau Hwyr Bydd yn rhaid i chi dalu’r ffi arferol hyd yn oed
os ydych yn hwyr yn cychwyn
ar y cwrs.
Tystysgrifau / Amnewid Coll
Noder bod dysgwyr yn gyfrifol am y gost o dystysgrif newydd, er enghraifft, os golli, ei ddifrodi neu dystysgrif gael ei rhoi gydag enw anghywir.
Gost adnewyddu yn dibynnu ar y Corff Dyfarnu, cysylltwch â'ch Tîm Ardal am fanylion pellach.
Partneriaethau
Mae CAG(G) Coleg Harlech hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, cyrff gwirfoddol a grwpiau cymunedol, a gall y ffioedd amrywio gan ddibynnu ar natur y gwaith.Cronfa Gymdeithasol Ewrop
Mae’n bosibl y bydd rhai cyrsiau yn rhan o brosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a bydd angen i’r myfyrwyr gwrdd â rhai meini prawf penodol cyn y gallant fanteisio ar ddarpariaeth ddi-dâl.
Aelodaeth
Os ydych yn dymuno cefnogi gwaith CAG(G) Coleg Harlech a chymryd rhan yn y gweithgareddau, mae’n bosibl yr hoffech ddod yn aelod unigol ar gost o £10 y flwyddyn. Nid yw aelodau yn gorfod talu’r ffi gofrestru (mae’n rhaid dangos tystiolaeth ddogfennol wrth gofrestru). Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac i dderbyn copi o’r newyddlen achlysurol a’r Adroddiad Blynyddol.
Cymorth Pellach
ydych yn cael anhawster i ddeall y rheolau hyn, neu os nad ydych yn gallu fforddio’r ffioedd neu gostau eraill megis gofal plant, ffioedd arholiad neu gost defnyddiau, a fyddech cystal â chysylltu â’r Rheolwr Dysgu/Tiwtor Drefnydd neu’r Gweithiwr Datblygu ar gyfer yr ardal.
Cyfrif Dysgu Unigol Cymru
Gallai Cyfrif Dysgu Unigol Cymru (CDU/ILA Cymru) eich helpu i dalu am yr hyfforddiant
y mae ei angen arnoch i wella eich sgiliau a chael swydd. Mae’n bosibl
eich bod yn gymwys i dderbyn rhwng £100 a £200 tuag at gostau dysgu,
gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol. Mae’r arian hwn ar gael ar
gyfer cyrsiau hyd at lefel 2 yn unig, ac mae’n rhaid i chi wneud cais
4 wythnos cyn dechrau’r cwrs.
Gellir defnyddio’r cyfraniad hwn i dalu am ffioedd a llyfrau ar gyfer
y cwrs a ddewisir gennych. Nid benthyciad na cherdyn credyd ydyw, ac ni fydd
yn rhaid i chi dalu’r arian yn ôl.
Sefydlwyd Cyfrif Dysgu Unigol Cymru i helpu pobl sydd ag ychydig neu ddim cymwysterau,
pa un a ydynt yn ddi-waith neu’n gweithio. I gael rhagor o wybodaeth,
neu i ddarganfod a ydych chi’n gymwys, byddwch cystal â chysylltu
â learndirect, sef y llinell gynghori genedlaethol ar ddysgu, drwy ffonio
0800 100 900.
Grantiau Dysgu’r Cynulliad
Grant arbennig yw hwn i helpu pobl ar incwm isel i gael mynediad i addysg bellach
ac addysg uwch.
Pwrpas y grant yw helpu gyda chostau megis llyfrau, offer, teithio a gofal plant
tra ydych yn astudio. Darperir y grantiau hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
drwy eich Awdurdod Addysg Lleol.
• I fod yn gymwys am grant, mae’n rhaid i chi fod yn fyfyriwr Addysg
Bellach neu Addysg Uwch amser-llawn neu ar gwrs rhan-amser am o leiaf 257 awr
y flwyddyn. Os ydych yn fyfyriwr Addysg Uwch ar gwrs rhan-amser, mae’n
rhaid i’r cwrs fod yn werth 30 credyd. Bydd yn rhaid i’r Brifysgol
neu’r Coleg gadarnhau hyn.
• I fod yn gymwys, rhaid i’r myfyriwr fod dros 18 oed a rhaid i’r
myfyriwr neu ei deulu fod yn ennill llai na £15,000 y flwyddyn, heb gynnwys
lwfansau treth. Y grant mwyaf yw £1,500. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd
yn rhaid i’r cwrs arwain at gymhwyster cydnabyddedig.
• I gael y grant hwn, bydd yn rhaid i’r person dan sylw fod wedi
byw yn y DU am dair blynedd cyn dechrau astudio, a dylai ei gartref parhaol
fod yng Nghymru, er y bydd yn parhau’n gymwys i dderbyn grant os yw’r
cwrs y tu allan i Gymru.
• I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch coleg lleol neu’ch
Awdurdod Addysg Lleol neu ewch i www.learning.wales.gov.uk.