Cyrsiau Busnes
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau busnes ar draws gogledd cymru fel y nodir isod
*I ddysgu mwy am ein prisiau a’r consesiynau sydd ar gael i’r rheiny sy’n derbyn budd-daliadau , ewch i’n tudalen ffioedd.

Cyrsiau Apple am ddim os ydych yn gweithio mewn ysgol neu goleg
Mae rhaglen Canolfan Hyfforddi Ranbarthol Apple yn helpu athrawon i ddefnyddio technoleg ddigidol i ddod â dysgu’n fyw. Mae rhwydwaith cenedlaethol o Ganolfannau Hyfforddi Rhanbarthol a gymeradwywyd gan Apple yn rhoi hyfforddiant i athrawon cynradd ac uwchradd fel y gallant ddefnyddio pecynnau meddalwedd arobryn Apple – gan roi iddynt y gallu i gyfoethogi gwersi ysgol â delweddau, fideo a sain.
Bydd athrawon sy’n mynychu cwrs yng Nghanolfan Hyfforddi Ranbarthol Coleg Harlech yn darganfod bod y Mac yn cynnig atebion cadarn, sefydlog, hawdd eu hintegreiddio ac y gall Macs weithio mewn cytgord ochr yn ochr â PCs.
Mae’n hysbys bod technoleg Apple yn hynod o hawdd ei defnyddio, ac y gall dechreuwyr ddysgu’n gyflym ac yn reddfol. Gydag Apple, nid yw’r dechnoleg byth yn ymyrryd â’r broses greadigol.
Cynhaliwn weithdai ymarferol rheolaidd lle gall Athrawon, Cynorthwywyr Dysgu,
Myfyrwyr, Rheolwyr Rhwydwaith a Thechnegwyr ddysgu sut i ddefnyddio TGCh i hybu
creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth.