Mon :: Beaumaris :: Cyrsiau Cymunedol :: Cymraeg I'r Teulu Bl 1
Cysylltwch â Choleg Harlech ynghylch Cymraeg i'r Teulu Bl 1 in Mon
Cysylltwch â ni i weld a yw ar gael
Os ydych wedi bod a’ch bryd ar ddysgu Cymraeg ond yn poeni ei fod yn rhy anodd, yna Cymraeg i’r Teulu yw’r union gwrs i chi.
Cwrs i ddechreuwyr yw Cymraeg i’r Teulu a’r pwyslais ar weithgareddau hwyliog sy’n eich galluogi i ddysgu’r iaith yn yr un modd ag y gwna’r plant yn yr ysgol.
Efallai mai’r cwrs hwn fydd eich blas cyntaf ar yr iaith neu fod gennych eisoes ychydig o adnabyddiaeth o’r iaith ond eich bod yn awyddus i ddatblygu’ch sgiliau ymhellach.
Yn ogystal a rhoi’r cyfle i chi ddysgu a mwynhau’r iaith ar gyflymder dysgu addas mewn awyrgylch addysgu, dysgwr ganolog, gallwch fanteisio’n llawn ar ein rhaglen ddysgu anffurfiol i ymarfer eich doniau newydd yn yr iaith gyda’ch teulu a’ch cyd ddysgwyr. (Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ddysgu anffurfiol, gallwch ymweld a’n dolen gweithgareddau anffurfiol ar gyfer Cymraeg i Oedolion).
Mae Cymraeg i’r Teulu yn gyfle gwych i oedolion ddysgu’r Gymraeg o fewn i’w cymuned gan ddechrau gyda phatrymau iaith a geirfa sylfaenol y gallwch eu hymarfer efo’r teulu.
Pa gymhelliad gwell dros ddysgu iaith nag i’w defnyddio gyda’ch plant, aelodau’r teulu a’r gymuned ehangach.
Mae’n ffaith erbyn hyn bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, boed ar lefel mamiaith neu ail iaith, a byddai cymryd y cam cyntaf i ddysgu’r iaith yn eich galluogi chi hefyd fel dysgwr i fanteisio ar ddysgu’r iaith.
Mae’r cwrs wedi ei strwythuro dros gyfnod o 60 awr, a ddysgir fel arfer mewn sesiynau wythnosol dwy awr yn ymdrin a themau bywyd bob dydd gyda dilyniant ar gael yn yr ail flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth am ein darpariaeth Cymraeg i’r Teulu, cysylltwch a Meinir Tomos Jones, Cydlynydd Cymraeg i oedolion.
Facebook- Coleg Harlech WEA Cymraeg
Cychwyn: Llun , 24 Med 2012.
Dyddiad Gorffen: Llun , 24 Meh 2013.
Wythnos: I'w gyhoeddi
O: 9:30 i: 11:30
Iaith addysgu: Saesneg
Ffi lawn: £77.00
ffi gostyngol: £41.00
Ffi leiafswm: £21.00
I gael rhagor o fanylion am fudd-daliadau, byddwch cystal ag edrych ar ein tudalen budd-daliadau .
Tiwtoriaid y cwrs
- Manon Prysor Huws
Lleoliadau'r cwrs
- Ysgol Gynradd Biwmaris
Beaumaris
LL58 8HL