|
||||||||||
"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands |
||||||||||
|
||||||||||
![]() |
|
E-bostio cyfaill
Powys :: Rhayader :: Cyrsiau Cymunedol :: Cymraeg I'r TeuluCysylltwch â Choleg Harlech ynghylch Cymraeg i'r Teulu in Powys Cysylltwch â ni i weld a yw ar gael Os ydych wedi bod a’ch bryd ar ddysgu Cymraeg ond yn poeni ei fod yn rhy anodd, yna Cymraeg i’r Teulu yw’r union gwrs i chi. Cwrs i ddechreuwyr yw Cymraeg i’r Teulu a’r pwyslais ar weithgareddau hwyliog sy’n eich galluogi i ddysgu’r iaith yn yr un modd ag y gwna’r plant yn yr ysgol. Efallai mai’r cwrs hwn fydd eich blas cyntaf ar yr iaith neu fod gennych eisoes ychydig o adnabyddiaeth o’r iaith ond eich bod yn awyddus i ddatblygu’ch sgiliau ymhellach. Yn ogystal a rhoi’r cyfle i chi ddysgu a mwynhau’r iaith ar gyflymder dysgu addas mewn awyrgylch addysgu, dysgwr ganolog, gallwch fanteisio’n llawn ar ein rhaglen ddysgu anffurfiol i ymarfer eich doniau newydd yn yr iaith gyda’ch teulu a’ch cyd ddysgwyr. (Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ddysgu anffurfiol, gallwch ymweld a’n dolen gweithgareddau anffurfiol ar gyfer Cymraeg i Oedolion). Mae Cymraeg i’r Teulu yn gyfle gwych i oedolion ddysgu’r Gymraeg o fewn i’w cymuned gan ddechrau gyda phatrymau iaith a geirfa sylfaenol y gallwch eu hymarfer efo’r teulu. Pa gymhelliad gwell dros ddysgu iaith nag i’w defnyddio gyda’ch plant, aelodau’r teulu a’r gymuned ehangach. Mae’n ffaith erbyn hyn bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, boed ar lefel mamiaith neu ail iaith, a byddai cymryd y cam cyntaf i ddysgu’r iaith yn eich galluogi chi hefyd fel dysgwr i fanteisio ar ddysgu’r iaith. Mae’r cwrs wedi ei strwythuro dros gyfnod o 60 awr, a ddysgir fel arfer mewn sesiynau wythnosol dwy awr yn ymdrin a themau bywyd bob dydd gyda dilyniant ar gael yn yr ail flwyddyn. Am fwy o wybodaeth am ein darpariaeth Cymraeg i’r Teulu, cysylltwch a Meinir Tomos Jones, Cydlynydd Cymraeg i oedolion. Cychwyn: Iau , 23 Med 2010. Dyddiad Gorffen: Sadwrn , 30 Gor 2011. Wythnos: I'w gyhoeddi Lefel: Dechreuwyr O: 9:30 i: 11:30 Iaith addysgu: Saesneg Ffi lawn: £95 ffi gostyngol: £85 Ffi leiafswm: £25 I gael rhagor o fanylion am fudd-daliadau, byddwch cystal ag edrych ar ein tudalen budd-daliadau . Tiwtoriaid y cwrsNid oes unrhyw wybodaeth eto am y tiwtor. Edrychwch eto yn nes ymlaen. Lleoliadau'r cwrs
|
||||