|
||||||||||
"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands |
||||||||||
|
||||||||||
![]() |
|
E-bostio cyfaill
Powys :: Llanfair Caereinion :: Cyrsiau Cymunedol :: Cymraeg I'r TeuluCysylltwch â Choleg Harlech ynghylch Cymraeg i'r Teulu in Powys Os ydych wedi bod a’ch bryd ar ddysgu Cymraeg ond yn poeni ei fod yn rhy anodd, yna Cymraeg i’r Teulu yw’r union gwrs i chi. Cwrs i ddechreuwyr yw Cymraeg i’r Teulu a’r pwyslais ar weithgareddau hwyliog sy’n eich galluogi i ddysgu’r iaith yn yr un modd ag y gwna’r plant yn yr ysgol. Efallai mai’r cwrs hwn fydd eich blas cyntaf ar yr iaith neu fod gennych eisoes ychydig o adnabyddiaeth o’r iaith ond eich bod yn awyddus i ddatblygu’ch sgiliau ymhellach. Yn ogystal a rhoi’r cyfle i chi ddysgu a mwynhau’r iaith ar gyflymder dysgu addas mewn awyrgylch addysgu, dysgwr ganolog, gallwch fanteisio’n llawn ar ein rhaglen ddysgu anffurfiol i ymarfer eich doniau newydd yn yr iaith gyda’ch teulu a’ch cyd ddysgwyr. (Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ddysgu anffurfiol, gallwch ymweld a’n dolen gweithgareddau anffurfiol ar gyfer Cymraeg i Oedolion). Mae Cymraeg i’r Teulu yn gyfle gwych i oedolion ddysgu’r Gymraeg o fewn i’w cymuned gan ddechrau gyda phatrymau iaith a geirfa sylfaenol y gallwch eu hymarfer efo’r teulu. Pa gymhelliad gwell dros ddysgu iaith nag i’w defnyddio gyda’ch plant, aelodau’r teulu a’r gymuned ehangach. Mae’n ffaith erbyn hyn bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, boed ar lefel mamiaith neu ail iaith, a byddai cymryd y cam cyntaf i ddysgu’r iaith yn eich galluogi chi hefyd fel dysgwr i fanteisio ar ddysgu’r iaith. Mae’r cwrs wedi ei strwythuro dros gyfnod o 60 awr, a ddysgir fel arfer mewn sesiynau wythnosol dwy awr yn ymdrin a themau bywyd bob dydd gyda dilyniant ar gael yn yr ail flwyddyn. Am fwy o wybodaeth am ein darpariaeth Cymraeg i’r Teulu, cysylltwch a Meinir Tomos Jones, Cydlynydd Cymraeg i oedolion. Cychwyn: Mercher , 22 Med 2010. Dyddiad Gorffen: Sadwrn , 30 Gor 2011. Wythnos: I'w gyhoeddi Lefel: Dechreuwyr O: 13:15 i: 15:15 Iaith addysgu: Saesneg Ffi lawn: £95 ffi gostyngol: £30 Ffi leiafswm: £10 I gael rhagor o fanylion am fudd-daliadau, byddwch cystal ag edrych ar ein tudalen budd-daliadau . Tiwtoriaid y cwrs
Lleoliadau'r cwrs
|
||||