Harlech :: Harlech :: Cyrsiau Cymunedol :: Merched Hanes
Bywgraffiad James BerryYn hanesydd ac awdur lleol angerddol a brwdfrydig, bu James yn dysgu cyrsiau i CAG ers dros ddeng mlynedd bellach yn ardal Conwy. Yn siaradwr a darlithydd gwadd rheolaidd, mae wedi gwneud llawer i annog pobl i astudio hanes eu hardal leol.
Er bod ganddo wybodaeth eang o Hanes Cymru, mae James yn ymddiddori’n arbennig yng Nghymru Rufeinig a Hanes Eglwysig ac yn fwy diweddar mae wedi datblygu diddordeb yn Hanes Merched. Bu ei gwrs diweddar i CAG Coleg Harlech - Merched yn Hanes Cymru - yn boblogaidd iawn a chafodd dderbyniad da.
Mae’r cwrs yn ystyried ac yn trafod y canlynol:
Merched Celtaidd - Coll Gwynfa?
Yr Eglwys a Merched
Dylanwad yr Etifeddiaeth Rufeinig a’r Eglwys Gristnogol ar Ferched Cymru
Sut mae’r Ferch Ganoloesol yn cael ei Phortreadu ym Marddoniaeth Cymru
Catrin o Ferain.
Astudiaeth o Ferch Duduraidd
Merched a’r Diwygiad Crefyddol a
Merched Cymru ym 1900
Lefel: Dechreuwyr
Mae’r cwrs hwn wedi gorffen. I gael gwybod am gyrsiau tebyg yn yr ardal hon cysylltwch â ni drwy ffonio:
Carys Wigglesworth 01766 781920
neu llenwch ein ffurflen gysylltu ar gyfer Merched Hanes in Harlech