E-bostio cyfaill Cyrsiau Cymunedol
Mae CAG yn cynnig math unigryw o addysg i oedolion yn y gymuned gan weithio
mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill i gefnogi oedolion sydd am ddatblygu
sgiliau a diddordebau newydd.
Yn wir, mae'r ymgwedd anffurfiol, hamddenol hon at ddysgu wedi bod yn hynod
boblogaidd, a CAG bellach yw'r darparwr addysg oedolion mwyaf yn y DU.
Mae uno diweddar Coleg Harlech a CAG (Gogledd Cymru) wedi ymestyn y cyfleoedd
i fyfyrwyr sydd yn awr yn gallu dysgu yn y gymuned yn ogystal ag yn y Coleg.
Anogir myfyrwyr i ddysgu mewn awyrgylch cyfeillgar a chydweithredol. Anogir
cyfle cyfartal a gall myfyrwyr helpu i benderfynu ar nodau'r cyrsiau. Mae ystod
y cyrsiau yn eang iawn ac yn ehangu'n barhaus.
|