Canghennau CAG(G) Coleg Harlech
Mae CAG Coleg Harlech yn ddemocrataidd yn ei hanfod. Mae’r dysgwyr yn bartneriaid gweithgar yn y broses o lunio a threfnu eu dysgu pa bryd bynnag y mae hyn yn briodol, ac mae’r Gymdeithas gyfan yn cael ei rhedeg dan arweiniad swyddogion pwyllgor etholedig ac aelodau pwyllgor sy’n fyfyrwyr eu hunain. Mae llywodraeth y Gymdeithas felly yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y dysgwyr.
Ble bynnag yr ydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, nid ydych byth yn bell o gangen, grŵp neu ddosbarth CAG. Dinasyddion sydd wedi uno â’i gilydd i siarad dros anghenion addysgol eu cymuned yw aelodau’r canghennau.
Yn ogystal, mae dosbarthiadau ffurfiol a grwpiau anffurfiol CAG yn estyn llaw i gymunedau a myfyrwyr ym mhob man, gan gynnig cyfleoedd newydd i bobl ddysgu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Rheolwr Dysgu yn eich ardal.
Gwynedd 01766 515298 gwynedd@fc.harlech.ac.uk
Conwy+Dinbych 01492 536693 conwy_dinbych@fc.harlech.ac.uk
Llandudno 01492 592088 Viv Allen.
Wrecsam+Sir y Fflint 01978 318866 n.taylor@fc.harlech.ac.uk
Ynys Mon+Bangor 01248 353254 mon@fc.harlech.ac.uk
Powys (gogledd) 01686 610270 powys@fc.harlech.ac.uk
Coleg Harlech 01766 781900 info@fc.harlech.ac.uk