"mae e wedi fy helpu i feddwl, ydw, dw i'n berson iawn, ac mae pobl yn gwerthfawrogi fy marn; mae'n dda i'ch hunan hyder" Susan Rowlands

Cartref Cyrsiau Preswyl Cyrsiau Cymunedol Cyrsiau yn y Gweithle a'r Sector Gwirfoddol
Harlech Castle with two students

Cyrsiau Preswyl

Ar gyfer cyrsiau amser-llawn a chyrsiau byr yn Harlech defnyddiwch y rhestrau cwympo uchod

Cyrsiau Cymunedol

I gael gwybodaeth am ddosbarthiadau dydd a nos defnyddiwch y rhestrau cwympo uchod

Gwybodaeth am CAG(G) Coleg Harlech

Cafodd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) Coleg Harlech ei ffurfio ym mis Awst 2001 yn dilyn uno dau o gyrff addysg oedolion hynaf Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) ym 1925 fel Ardal Gogledd Cymru Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Cafodd Coleg Harlech ei sefydlu ym 1927 gan Tom Jones, a fu’n Ysgrifennydd Cabinet i David Lloyd-George a Stanley Baldwin, er mwyn parhau â gwaith CAG mewn amgylchedd preswyl.

Mae’r Gymdeithas a ffurfiwyd yn sgil yr uno wedi parhau â’r traddodiad hir o gynnig addysg ryddfrydig i oedolion yn y celfyddydau sy’n galluogi oedolion i ddatblygu eu gallu i ddysgu a chyflawni eu potensial, ond mae hefyd wedi parhau i adeiladu ar hyn drwy ddatblygu addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys darparu cyfleoedd i oedolion dan anfantais gymdeithasol ac addysgol drwy gyfrwng cyrsiau preswyl yn Harlech a chyrsiau yn y gymuned a’r gweithle ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.


Fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant, ysgrifennwyd llyfr sy’n adrodd hanes y Gymdeithas.
Golygwyd “Changing Lives” gan Joe England a cheir rhagair gan Glenys Kinnock.
I gael copi o’r llyfr, cysylltwch â Iona Jones drwy e-bost neu ffoniwch 01766 780363.

Datganiad o Genhadaeth

Galluogi oedolion i wella eu cyfleoedd mewn bywyd a’u rhagolygon gwaith drwy gynyddu eu gallu i ddysgu drwy ddarparu addysg o ansawdd uchel mewn sefyllfaoedd preswyl a chymunedol, gan roi sylw priodol i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.


Mae’r Gymdeithas wedi’i chofrestru’n elusen gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif cofrestru 525785) ac mae’n gwmni cyfyngedig drwy warant (rhif cofrestru 226336).
Mae’r Gymdeithas yn sefydliad dynodedig o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a’r brif ffynhonnell cyllid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Hanes

Yn oes Fictoria, nid oedd llawer o bobl ym Mhrydain yn cael eu hannog i ddysgu mwy na’r sgiliau galwedigaethol y byddai eu hangen arnynt i wasanaethu’r economi; dim ond y breintiedig a gâi gyfle i ymgymryd â mathau eraill o ddysgu.

Dechreuodd CAG fel mudiad dosbarth gweithiol i wneud addysg yn hygyrch i bawb. Cafodd gefnogaeth o’r cychwyn cyntaf gan yr Undebau Llafur a’r Gymdeithas Gydweithredol, arweinwyr eglwysig, cylchoedd Anghydffurfiol a Phrifysgol Rhydychen lle lansiwyd y Gymdeithas yn swyddogol ym mis Awst 1903.

Heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach, mae Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn un o’r darparwyr addysg oedolion gwirfoddol mwyaf yn y DU.